James Gillray
Gwawdluniwr Seisnig oedd James Gillray (13 Awst 1756 – 1 Mehefin 1815).
James Gillray | |
---|---|
Ganwyd | 13 Awst 1756 Chelsea |
Bu farw | 1 Mehefin 1815 Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | cartwnydd dychanol, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, darlunydd, cartwnydd, arlunydd, arlunydd graffig |
Fe'i aned yn Chelsea, ger Llundain, ac astudiodd engrafiad yn yr Academi Frenhinol, Llundain. Dechreuodd ei yrfa fel gwawdluniwr yn yr 1780au, ac hyd at 1811, pan gollodd ei bwyll, dangosodd ffolindebau gwleidyddiaeth plaid, gormodeddau y teulu brenhinol, ac erchyllterau y Chwyldro Ffrengig.
-
The Plumb-pudding in danger, or, State Epicures taking un Petit Souper ... (1805; "Y pwdin plwm mewn perygl, ynteu, Epicuriaid gwladol yn cael swper fach"). Mae William Pitt a Napoleon yn rhannu'r byd rhyngddynt eu hunain: Napoleon yn cymryd Ewrop; Mae Pitt yn cymryd y cefnforoedd.
-
A Voluptuary (1792, "Trythyllwr"), gwawdlun o Siôr IV tra oedd yn Dywysog Cymru
-
The Zenith of French Glory – the Pinnacle of French Liberty (1793; "Copa gogoniant Ffrengig – Pinacl rhyddid Ffrengig"). Mae sans-culotte hwyliog yn canu'r ffidil yng nghanol lladdfa'r Chwyldro Ffrengig.