James Hogg
Bardd o’r Alban oedd James Hogg (1770 – 21 Tachwedd 1835). Ganwyd yn Ettrick. Roedd rhaid iddo adael yr ysgol yn 7 oed i weithio ar fferm. Clywodd ganeuon a straeon gwerin oddi wrth ei fam. Daeth o’n fugail yn Swydd Selkirk a Swydd Dumfries a dechreuodd ysgrifennu cerddi a chaneuon. Symudodd i Gaeredin ym 1810 i geisio am yrfa fel bardd, ond dychwelodd i Swydd Selkirk ym 1813 a gweithiodd ar fferm y Dug Buccleuch yn Yarrow a pharhaodd ysgrifennu., gan gynnwys sgetsys ar gyfer Blackwood's Edinburgh Magazine.[1]
James Hogg | |
---|---|
Ganwyd | 9 Rhagfyr 1770 Ettrick |
Bu farw | 21 Tachwedd 1835 Ettrick |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Galwedigaeth | bardd, llenor, nofelydd, cofiannydd, cyfansoddwr caneuon |
Adnabyddus am | The Private Memoirs and Confessions of a Justified Sinner |
Arddull | llenyddiaeth Gothig |
Ei gerddi a straeon
golygu- Scottish Pastorals (1801) (cerddi)
- The Shepherd's Guide (1807) (erthygl am ddefaid)
- The Mountain Bard (1807) (cerddi)
- The Forest Minstrel (1810) (cerddi)
- The Spy (1810–11) (cylchgrawn wythnosol)
- The Queen's Wake (1813) (cerddi)
- The Pilgrims of the Sun (1815) (cerddi)
- Mador of the Moor (1816) (cerddi)
- The Brownie of Bodsbeck (1817) (nofel)
- The Surpassing Adventures of Allan Gordon (1818) (nofel)
- Jacobite Reliques (1819) (casgliad o ganeuon protest)
- Winter Evening Tales (1820) (straeon a cherddi))
- The Three Perils of Man (1822) (nofel)
- The Three Perils of Woman (1823) (nofel)
- The Private Memoirs and Confessions of a Justified Sinner (1824) (nofel)
- Queen Hynde (1824) (cerddi)
- The Brownie of the Black Haggs (1828) (stori fer)
- The Shepherd's Calendar (1829) (straeon)
- Songs by the Ettrick Shepherd (1831) (caneuon a cherddi)
- Altrive Tales (1832) (straeon byrion)
- A Queer Book (1832) (cerddi)
- The Domestic Manner and Private Life of Sir Walter Scott (1834) (cofiant answyddogol)
- A Series of Lay Sermons (1834) (pregethau dychanol)
- Tales of the Wars of Montrose (1835) (straeon byrion)
- Tales and Sketches of the Ettrick Shepherd (1837) (straeon a sgetsys)
Bu farw yn Ettrick ar 21 Tachwedd 1835.
Mae cerflun ohono ar lannau Loch Santes Fair, ger Ettrick.