James Prescott Joule
Ffisegydd Seisnig oedd James Prescott Joule (24 Rhagfyr 1818 - 11 Hydref 1889). Mae'n adnabyddus am ei astudiaethau ar natur gwres, ac am ddarganfod y cysylltiad rhwng gwres a gwaith mecanyddol. Arweiniodd hyn at ddatblygiad Deddf gyntaf thermodynameg. Galwyd yr uned fesur joule ar ei ôl, wedi iddo ei ddarganfod.
James Prescott Joule | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
24 Rhagfyr 1818 ![]() Salford ![]() |
Bu farw |
11 Hydref 1889 ![]() Sale ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
ffisegydd ![]() |
Adnabyddus am |
Thermodynameg ![]() |
Prif ddylanwad |
John Dalton ![]() |
Priod |
Amelia Grimes ![]() |
Gwobr/au |
Medal Brenhinol, Medal Copley, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Albert, Cymrawd Academi Celf a gwyddoniaeth America ![]() |
Ganed Joule yn Salford, Swydd Gaerhirfryn, yn fab i fragwr cyfoethog. Addysgwyd ef gartref, yna cafodd ei yrru i Fanceinion i astudio dan John Dalton. Daeth yn rheolwr yn y bragdy, gyda gwyddoniaeth fel hobi ar y cychwyn.