James Rhys Parry (Eos Eyas)

bardd

Bardd a chyfieithydd o Gymru oedd James Rhys Parry (1570 - 1625), a adnabyddir hefyd wrth ei enw barddol Eos Eyas.

James Rhys Parry
Ganwyd1570 Edit this on Wikidata
Bu farw1625 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata
PlantGeorge Parry Edit this on Wikidata

Ychydig a wyddys am ei fywyd personol. Roedd yn un o ddisgynyddion y teulu Parry o Poston, Swydd Henffordd.[1] Yn yr Oesoedd Canol roedd y rhan honno o Swydd Henffordd yn rhan o gwmwd ac arglwyddiaeth Ewias a oedd yn cynnwys hefyd rhan o Went a chyfeiria ei enw barddol at yr ardal (mae Eyas yn ffurf hynafiaethol).

Cyfansoddodd Eos Eyas fersiwn mydryddol o Salmau Dafydd rywbryd cyn tua 1620. Cyflwynwyd y cerddi hyn ynghyd â llawysgrifau eraill yr awdur i'r Esgob William Morgan yn ei gyfnod fel Esgob Llandaf. Ymddengys fod yr esgob wedi dangos cyfieithiad Eos Eyas o'r Salmau i Edmwnd Prys, Archddiacon Meirionnydd, cyn i hwnnw gyhoeddi ei gyfrol Salmau Cân yn 1621.[1]

Roedd mab Eos Eyas, George Parry, yn fardd hefyd. Ysgrifennodd yntau fersiwn o'r Salmau tua'r flwyddyn 1649.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru.