Agor y brif ddewislen

Ewias

cwmwd canoloesol ac arglwyddiaeth yn ne-ddwyrain Cymru

Cwmwd canoloesol ac arglwyddiaeth yn ne-ddwyrain Cymru oedd Ewias (Ewyas mewn ffynonellau Saesneg ; Ewias Lacy yn nes ymlaen). Mae ei hanes cynnar yn dywyll ac mae barn haneswyr yn rhanedig, ond mae'n bosibl y bu'n un o deyrnasoedd cynnar Cymru. Mae rhai haneswyr yn dadlau y cafodd Ewias ei sefydlu fel mân deyrnas ar ddiwedd cyfnod y Rhufeiniaid yng Nghymru, sef tua dechrau'r 5g OC, ond barn y mwyafrif yw mai is-deyrnas neu arglwyddiaeth o fewn teyrnas Gwent oedd Ewias o'r cychwyn cyntaf. Erbyn yr Oesoedd Canol roedd Ewias yn gwmwd - yn cynrychioli tiriogaeth llai na'r deyrnas wreiddiol dybiedig efallai, a dan reolaeth teyrnas Gwent. Roedd y cwmwd yn cynnwys Dyffryn Ewias (yn Sir Fynwy heddiw) ac ardal helaethach, i'r dwyrain, sy'n gorwedd yn Swydd Henffordd yn Lloegr heddiw: roedd yr ardal olaf yn cynnwys pentrefi Ewyas Harold ac Ewyas Lacy yn Swydd Henffordd, sy'n cadw enw'r hen gwmwd.

Ewias
Math Cwmwd, teyrnas, Teyrnasoedd Cymru Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 5G Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Teyrnas Gwent Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Yn ffinio gyda Erging Edit this on Wikidata

Hanes cynnar a thraddodiadauGolygu

Mae rhai ffynonellau, yn cynnwys achrestrau diweddarach a siarteri canoloesol, yn awgrymu fod yr hen Ewias wedi cynnwys rhan o deyrnas Gwent ac Ergyng. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf o haneswyr yn amharod i dderbyn hyn fel tystiolaeth ddibynadawy. Awgrym arall yw y bu Ewias dan reolaeth neu ddylanwad teyrnas Powys yn y cyfnod cynnar.

Yn ei ffug-hanes enwog Historia Regum Britanniae, rhydd Sieffre o Fynwy chwedl Eudaf, "Iarll Ewyas ac Ergyng", gan honni ei fod yn un o ddisgynyddion Caradog, arweinydd y Silwriaid yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl Sieffre, daeth Udaf yn "Uchel Frenin Ynys Prydain" ar ôl curo Trahaearn, brawd Coel Hen, ond does dim tystiolaeth hanesyddol o gwbl i ategu hynny.[1]

Mae un o siarteri Llandaf, sy'n dyddio o'r 8g, yn enwi un Clydog, "brenin yn Ewias", ac yn dweud iddo gael ei lofruddio tra'n hela; codwyd creirfa iddo ym Merthyr Clydog (Clodock, Swydd Henffordd).[2]

I'r gogledd o bentref Longtown (Swydd Henffordd heddiw), sefydlwyd clas yn perthyn i St. Beuno yn Llanfeuno (Llanveynoe, Swydd Henffordd, heddiw), lle ceir Croes Geltaidd sy'n dyddio o tua 600 OC. Mae'n bosibl hefyd y sefydlwyd clas yn Llanddewi Nant Hodni lle codwyd priordy yn yr Oesoedd Canol.[3]

Yr Oesoedd CanolGolygu

Erbyn y 10g yr oedd saith cantref Morgannwg yn cynnwys Ewias. Tua 1046 cododd Osbern Pentecost, un o ddeiliaid Normanaidd Edward y Cyffeswr, gastell mwnt a beili yn Ewyas Harold, yn nwyrain Ewias, un o'r rhai cynharaf o'i fath ym Mhrydain. Ar ôl y Goresgyniad Normanaidd, roedd Ewias dan reolaeth arglwydd Cymreig lleol o'r enw Rhydderch ap Caradog, efallai fel deiliad i Wilym Goncwerwr, a gipiodd goron Lloegr yn 1066.

Pasiodd i ddwylo'r Normaniad Walter de Lacy ac o hynny allan tueddwyd i gyfeirio ato fel 'Ewias Lacy'. Pan ysgrifenwyd Llyfr Domesday yn 1086, cofnodir Ewias fel ardal ymreolaethol yn cael ei diffinio gan y Mynydd Du i'r gorllewin, Craig Syfyrddin i'r de, y "Dyffryn Euraidd" i'r dwyrain, a bryniau Iager a Chefn i'r gogledd, ger pentref Clifford, Swydd Henffordd, ger Y Gelli Gandryll. Cofnodir fod yn Alfred o Marlborough yn dal "castell Ewias" yn enw'r brenin Eingl-Normanaidd; Castell Pentecost efallai.[3] Roedd y tir o gwmpas Castell Ewias Lacy yn nwylo'r de Lacys.

Daeth Ewias yn un o arglwyddiaethau'r Mers, yn lled annibynnol ar Goron Lloegr. Codwyd cestyll mwnt a beili ychwanegol yn Walterstone, Llancilo, Rowlestone and Cludog, ac yna yn 1216 Castell Longtown, canolfan bwrdeistref newydd Longtown. Daeth llinach y de Lacys i ben yn 1241 a rhanwyd arglwyddiaeth Ewias Lacy.

Cyfnod ModernGolygu

Yn sgil y "Deddfau Uno", cymerodd y ffin rhwng Swydd Henffordd a de-ddwyrain Cymru ei ffurf bresennol, fwy neu lai, a rhoddwyd Ewias Lacy yn Swydd Henffordd. Arosodd yr ardal yn Gymraeg ei hiaith er hynny. Ymgorfforwyd gorllewin Ewias yn Sir Fynwy, a greuwyd yn 1536, fel cantref Y Fenni. Hyd 1852 bu Ewias yn uned eglwysig o fewn Esgobaeth Tyddewi, ond yn y flwyddyn honno rhoddwyd plwyfi Ewias Lacy i esgobion Henffordd. Aeth plwyfi gorllewin Ewias – Llanddewi Nant Hodni, Cwm-iou a'r Hencastell - o Dyddewi i Esgobaeth Llandaf.[4]

Iarll Ewias ac ErgyngGolygu

  • Cyllin(Coellyn) ap Caradog
  • Owain ap Cyllin(Coellyn)
  • Meirchion Fawd-Filwr ap Owain
  • Cwrrig Fawr ap Meirchion
  • Gorddwfn ap Cwrrig
  • Einydd Wledig ap Gorddwfn (-328)
  • Eudaf Hen ap Einydd
  • Caradog ap Einydd
  • Arthfael ap Einydd
  • Gereint ap Einydd
  • Gruffydd ap Einydd
  • Gwrgant ap Arthfael
  • Meirchion ap Gwrgant
  • Meurig ap Meirchion

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu