Jane Espenson
Awdures Americanaidd yw Jane Espenson (ganwyd 14 Gorffennaf 1964) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr ac awdur.
Jane Espenson | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
14 Gorffennaf 1964 ![]() Ames ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth |
sgriptiwr, ysgrifennwr, cynhyrchydd teledu ![]() |
Gwefan |
http://www.janeespenson.com/ ![]() |
Fe'i ganed yn Ames, Iowa ar 14 Gorffennaf 1964. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Califfornia, Berkeley. [1][2]
Mae Espenson wedi gweithio ar gomedïau sefyllfa a dramâu cyfresol. Cafodd bum mlynedd fel awdur a chynhyrchydd ar Buffy the Vampire Slayer a rhannodd Wobr Hugo am ei hysgrifennu ar y bennod "Conversations with Dead People". O 2006 i 2010, gweithiodd ar Battlestar Galactica a llawer o'r gwaith dilynnol. Rhwng 2009 a 2010 bu'n gwasanaethu ar Caprica, fel cyd-weithredwr a chynhyrchydd gweithredol y gyfres deledu. Yn 2010, ysgrifennodd bennod o Game of Thrones (HBO), ac ymunodd â'r staff ysgrifennu ar gyfer pedwerydd tymor rhaglen deledu Torchwood, a ddarlledodd BBC One yn y Deyrnas Gyfunol a "Starz" yn yr Unol Daleithiau yn ystod canol 2011.
Bu hefyd yn gweithio ar gyfres ABC, sef Once Upon a Time, a bu'n rhan o Husbands, Brad Bell.
Magwraeth a cholegGolygu
Fe'i magwyd yn Ames, Iowa lle mynychodd Ames High School.
Tra'n astudio gwyddoniaeth cyfrifiadurol ac ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley, dechreuod ddanfon sgriptiau ar gyfer Star Trek: The Next Generation, fel rhan o'i chwrs.
Yn ei harddegau, cafodd Espenson wybod bod M * A * S * H yn derbyn drafft-sgriptiau heb addewid o daliad neu waith yn y dyfodol. Er nad oedd yn awdur sefydledig ar y pryd, bwriadodd ysgrifennu ei phennod gyntaf: "Roedd yn drychineb. Wnes i erioed ei anfon. Doeddwn i ddim yn gwybod y fformat cywir. Doeddwn i ddim yn gwybod y cyfeiriad ble i anfon, ac wedyn roeddwn i'n meddwl, dydyn nhw ddim wir yn gallu fy llogi tan i mi orffen yn yr ysgol iau, beth bynnag."[3]
AnrhydeddauGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14096344g; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value). http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb14096344g; ffeil awdurdod y BnF; dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Kelly, Suzanne. "Jane Espenson: Writer, sci-fi thriller, one nerdy lady". CNN. Cyrchwyd 28 Ionawr 2011.