Janet Ackland
Mae Janet Ackland (ganwyd 19 Rhagfyr 1938) yn fowliwr o Gymru. Dechreuodd fowlio ym 1959 ac enillodd ei theitl cyntaf yn Llandrindod ym 1969. Mae hi wedi bod yn aelod o dîm bowlio Rhyngwladol Cymru ers 1973, gan ennill 100 o gapiau dan do ac yn yr awyr agored. Roedd hi hefyd yn gapten tîm ei wlad.
Janet Ackland | |
---|---|
Ganwyd | 19 Rhagfyr 1938 |
Bu farw | 2019 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bowls player |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae hi wedi ennill dau deitl Ynysoedd Prydain a phedwar coron Cymreig ac wedi cystadlu mewn pedwar o Gemau'r Gymanwlad yn olynol. Enillodd Janet medal efydd ym Mhencampwriaeth y Byd 1977, ond daeth pinacl ei gyrfa hir pan enillodd orest y senglau a'r medal aur yn Gemau 1990 yn Auckland. Yn Gemau'r Gymanwlad 1994 enillodd fedal efydd yn y parau gyda Ann Dainton.
Mae'n aelod o Neuadd Enwogion Chwaraeon Cymru.