Janet Haworth
gwleidydd Cymreig
Gwleidydd Ceidwadol Cymreig yw Janet Elizabeth Haworth (ganwyd Ebrill 1954).[1] Roedd hi'n Aelod o Gynulliad Cymru (AC) dros Ranbarth Gogledd Cymru rhwng 2015 a 2016. Cafodd ei geni yn Llandudno.
Janet Haworth | |
---|---|
Ganwyd | Llandudno |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru |
Plaid Wleidyddol | Ceidwadwyr Cymreig |
Ymddeolodd o redeg gwesty bach yn 2003 a daeth yn gynghorydd lleol.[2] Daeth yn Aelod Cynulliad yn 2015 ar ôl i aelod Ceidwadol arall ymddiswyddo, ond gorchfygwyd hi yn yr etholiad nesaf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Janet Haworth". Companies House (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Tachwedd 2022.
- ↑ Deans, David (27 Mawrth 2015). "Meet the North Wales councillor who could be set for a seat in the Assembly". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Mai 2015.