Jehoida Hodges
Roedd Joseph Jehoida Hodges (15 Gorffennaf 1876 - 13 Medi 1930) [2] yn Chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru Roedd yn aelod o dîm buddugol Cymru a gurodd y Crysau Duon ar daith ym 1905.[3] Chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Cymry Llundain a Chasnewydd.[4] Gwasanaethodd fel capten Casnewydd o1904.[5]
Hodges yng nghrys Casnewydd | |||
Enw llawn | Joseph Jehoida Hodges | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 15 Gorffennaf 1876 | ||
Man geni | Rhisga, | ||
Dyddiad marw | 13 Medi 1930 | (54 oed)||
Lle marw | Waunlwyd, | ||
Taldra | 5' 9 [1] | ||
Pwysau | 13 st | ||
Gwaith | glowr gwerthwr siwrin tafarnwr | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Blaenwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
??? 1897/1909 |
Cymry Llundain Casnewydd | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1899-1906 | Cymru | 23 | (18) |
Cefndir
golyguGanwyd Hodges yn Rhisga, Sir Fynwy yn bumed blentyn i Joseph Hodges, mwynwr glo, ac Elizabeth ei wraig.
Ym 1904 Priododd ag Annie Smythe, nyrs yn nhloty Casnewydd. Bu iddynt un mab.[6]
Cydnabyddir Hodges, ynghyd â'i gyd-chwaraewyr rhyngwladol Cymreig George Boots, ac yn ddiweddarach George Travers am fabwysiadu trefniant chwarae ymlaen mewn sgrymiau a leiniau. Er mai blaenwyr oedd yn gyfrifol am y meysydd chwarae hyn, prin oedd y tactegau na'r arbenigedd diffiniedig cyn dechrau'r ugeinfed ganrif. Helpodd Hodges i ddod â ffurfiannau tactegol ac felly lefel o arbenigedd i chwarae fel blaenwr. Fe’i disgrifiwyd fel chwaraewr gweithgar a rhagorol yn gyffredinol a allai lenwi yn y mwyafrif o safleoedd,[7] hyd yn oed ar yr asgell.[8]
Gyrfa ryngwladol
golyguCymru
golyguGwnaeth Hodges ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn erbyn Lloegr ym 1899, ar ôl dim ond ei ail dymor yn chwarae i Gasnewydd. Chwaraeodd Hodges mewn tair ymgyrch a arweiniodd at ennill y Goron Driphlyg. Darparodd wrthwynebiad [9] yn erbyn 'pen rhydd' enwog y Crysau Duon yn ystod eu taith ym 1905 ac roedd yn rhan o fuddugoliaeth gyntaf Cymru oddi cartref i'r Alban. Bu hefyd yn rhan o dîm Casnewydd a gollodd i Dde Affrica ar eu taith ym 1906.[10]
Roedd un o eiliadau mwyaf trawiadol Hodges mewn crys Cymreig yng ngêm 1903 yn erbyn Lloegr. Roedd asgellwr Cymru, Tom Pearson, wedi cymryd ergyd drom i’r asennau gan daclwr drwg-enwog Lloegr [11] Gamlin, a gorfodwyd ef i ymddeol. Dangosodd Hodges ei allu enwog i addasu’n wrth symud i’r asgell i herio safle Pearson a sgorio tri chais mewn buddugoliaeth 21-5 i’r Cymry. Rhoddodd Hodges y gorau i chwarae rygbi i Gasnewydd ym mis Hydref 1908 pan aeth i hyfforddi a chwarae'n aclysurol i dîm Rhisga.[12]
Gemau rhyngwladol a chwaraewyd
golygu- Lloegr 1899, 1900, 1901 [13], 1902, 1903, 1904, 1905, 1906
- Iwerddon 1899,[14] 1900, 1902, 1903, 1905, 1906 [15]
- Seland Newydd 1905
- yr Alban 1899, 1900, 1901, 1902,[16] 1903, 1904, 1905, 1906
-
Carfan Cymru 1905, Hodges, rhes ganol, ail o'r chwith
-
Tîm Casnewydd yn erbyn De Affrica, Hodges, diwedd y rhes ganol
Gyrfa ddiweddarach a marwolaeth
golyguAr ôl gadael rygbi clwb daeth Hodges yn dafarnwr, yn gyntaf yng Ngwesty'r Salvation yng Nghasnewydd ac yna yng Ngwesty'r Park, Waunlwyd. Bu farw Hodges ar 13 Medi 1930. Dychwelwyd ei gorff i'w dref enedigol, Rhisga, lle cafodd ei gladdu ar 17 Medi ym mynwent Cromwell Road. Cyn-chwaraewyr rhyngwladol Cymru oedd yn cario ei arch.
Llyfryddiaeth
golygu- Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Bridgend: seren. ISBN 1-85411-262-7.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas (1979), tud 24.
- ↑ "Newport RFC Personnel Profile". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-18. Cyrchwyd 2008-07-08.
- ↑ "Wales Sets the Pace and Wins Game - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1905-12-16. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "THETEAMSI - The Western Mail". Abel Nadin. 1900-03-31. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "NewportsCaptainI - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1904-09-03. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "LOCALWEDDINGS - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1904-04-23. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ Smith (1980), tud 115.
- ↑ Parry-Jones (1999), tud 102.
- ↑ Smith (1980), tud 152.
- ↑ "SOUTH AFRICANS TRIUMPHANT - The Cambrian". T. Jenkins. 1906-11-02. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ Smith (1980), tud 143.
- ↑ "ITEMS OF INTEREST - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1908-10-19. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "Wales v England - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-12-19. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "WALESVIRELANDI - The South Wales Daily Post". William Llewellyn Williams. 1899-03-09. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "THEBELFASTMATCH - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1906-03-02. Cyrchwyd 2021-02-04.
- ↑ "WELSHMENS PREVIOUS MATCHES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1902-02-01. Cyrchwyd 2021-02-04.