George Boots

chwaraewr pêl droed (Rygbi)

Roedd John George Boots (2 Gorffennaf 187429 Rhagfyr 1928) yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd[1] a rygbi sirol gyda Sir Fynwy. Enillodd 16 cap i Gymru.[2]

George Boots
Ganwyd2 Gorffennaf 1874 Edit this on Wikidata
Aber-bîg Edit this on Wikidata
Bu farw30 Rhagfyr 1928 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Cross Keys RFC, Clwb Rygbi Pill Harriers Edit this on Wikidata
SafleClo, blaenasgellwr Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Boots yn Aber-bîg Sir Fynwy yn fab i David Boots, gweithiwr yn y busnes gwin a gwirodydd, a Harriet (née Simmonds) ei wraig. Roedd y teulu yn hanu o Swydd Rydychen yn wreiddiol ac wedi symud i Sir Fynwy tua 1872.

Mewn cyfnod pan oedd rygbi yn gêm amatur ac nid oedd hawl dderbyn tal am chwarae bu Boots yn gweithio fel asiant i gwmni yswiriant.

Ym 1896 roedd Boots yn un o 170 o etholwyr Rhyddfrydol bu'r Ceidwadwyr yn ceisio cael tynnu eu henwau oddi ar restr etholwyr Casnewydd. Bu'r ymgais yn aflwyddiannus.[3]

Ym 1897 priododd Boots â Louisa Shepherd bu iddynt fab, a fu farw'n blentyn, a merch.

Gyrfa Rygbi

golygu

Roedd Boots yn cael ei ystyried yn chwaraewr cyson gydag ymdeimlad gwych o leoliadol a fyddai’n taclo’n galed ac yn mygu’r bêl rydd; roedd ei sgil pasio yn gryf ynghyd â'i allu i ddal a driblo'r bêl. Nid oedd Boots yn chwaraewr lliwgar ond roedd yn 'anrheithiwr' da a gallai droi amddiffyniad yn ymosodiad, gan roi llwyfan i gefnwyr, fel Nicholls a Lloyd, i ennill ceisiadau. Cafodd Boots yrfa rygbi eithriadol o hir, er gwaetha'r ffaith ei fod yn ymddangos ei fod ar ei wely angau ym 1908 gyda pliwrisi actwr.

Gyrfa clwb

golygu

Dechreuodd gyrfa rygbi Boots gyda chlwb Aber-bîg[4] pan oedd yn 14 mlwydd oed, yna symudodd i'r clwb y Pill Harriers, clwb yn Nociau Casnewydd oedd ag enw am fod yn galed. Ymysg chwaraewyr rhyngwladol eraill yr Harriers oedd Tommy Vile a George Travers. Roedd gan Boots un o'r gyrfaoedd hiraf ar frig rygbi Cymru. Ymunodd â Chasnewydd ym 1895 a chwaraeodd ei gêm olaf iddynt ym 1922. Ei gêm olaf oedd ei 365ain gêm i Gasnewydd ac yn 47 oed wrth ymddeol o'r gêm mae'n parhau a'r record am fod y chwaraewr hynaf i gynrychioli'r clwb mewn gêm swyddogol.

Gyrfa ryngwladol

golygu

Gwnaeth Boots ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf mewn gornest buddugol oddi cartref yn erbyn Iwerddon ar 19 Mawrth 1898.[5] Wedi chware 16 gwaith dros ei wlad fe sgoriodd un cais a hynny mewn gêm yn erbyn yr Alban ym 1901. Roedd un o eiliadau gorau Boots mewn crys Cymru yng ngêm 1903 yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Yn hanner cyntaf y gêm roedd ei daclo rhagorol yn darparu tir cadarn i'r olwyr ymosod, er iddo dorri asgwrn pont yr ysgwydd yn ystod un o'r cyfnewidiadau.[6] Er gwaethaf y boen parhaodd Boots i daclo yn ystod yr hanner cyntaf ond bu'n rhaid iddo ymadael a'r maes ar ôl yr egwyl, ond erbyn hynny roedd y difrod a wnaed ganddo wedi rhoi'r oruchafiaeth i Gymru a threchwyd Iwerddon 18-0.[7]

Gemau rhyngwladol a chwaraewyd [8]
golygu

Llyfryddiaeth

golygu
  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Penybont: Seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "MEN WHO ARE TALKED ABOUT - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1897-10-25. Cyrchwyd 2021-02-23.
  2. "BOOTS, JOHN GEORGE (1874 - 1928), chwaraewr pêl droed (Rygbi) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-02-23.
  3. "NEWPORT REGISTRATION COURT - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1896-09-09. Cyrchwyd 2021-02-23.
  4. "ABRRBEEG RANGERS' FOOTBALL CLUB - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1891-09-18. Cyrchwyd 2021-02-23.
  5. "THE SHAMROCK AND THE LEEK - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-03-19. Cyrchwyd 2021-02-23.
  6. "Todays Great Match at Cardiff - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1903-03-14. Cyrchwyd 2021-02-23.
  7. Parry-Jones (1999), tud 103.
  8. Smith (1980), tud 463.
  9. "THE PLAYERS IN TODAY'S GREAT GAME - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1898-04-02. Cyrchwyd 2021-02-23.
  10. "ENGLAND V WALES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1900-01-06. Cyrchwyd 2021-02-23.
  11. "International Football - South Wales Echo". Jones & Son. 1898-03-21. Cyrchwyd 2021-02-23.
  12. "IRELAND V WALES - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1899-03-20. Cyrchwyd 2021-02-23.
  13. "FOOTBALL - The Cambrian". T. Jenkins. 1901-02-15. Cyrchwyd 2021-02-23.