Jenny Erpenbeck
Awdures o'r Almaen yw Jenny Erpenbeck (ganwyd 12 Mawrth 1967) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cyfarwyddwr theatr ac opera ac fel awdur. Enillodd y Wobr Annibynnol am Ffuglen Estron gan bapur newydd The Independent (Independent Foreign Fiction Prize).[1]
Jenny Erpenbeck | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mawrth 1967 Dwyrain Berlin |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr theatr, llenor, cyfarwyddwr, nofelydd |
Adnabyddus am | Wörterbuch, Gehen, ging, gegangen |
Tad | John Erpenbeck |
Mam | Doris Kilias |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Hasenclever Walter, Gwobr Hans Fallada, Gwobr Joseph-Breitbach, Gwobr Thomas-Valentin am Lenyddiaeth, Gwobr Lenyddol Heimito von Doderer, Athro barddoniaeth ym Mhrifysgol Bamberg, Gwobr Llenyddiaeth Ewropeaidd, Croes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Schubart-Literaturpreis, Usedom Literature Prize, Sylt resident writer, Stefan Heym International Award, Gwobr Ryngwladol Man Booker |
Magwraeth
golyguFe'i ganed yn Nwyrain Berlin ar 12 Mawrth 1967 yn ferch y ffisegydd, yr athronydd a'r awdur John Erpenbeck a'r cyfieithydd Arabeg Doris Kilias. Ei theidiau a'i neiniau yw'r awduron Fritz Erpenbeck a Hedda Zinner. Yn Berlin, aeth i Ysgol Uwchradd Uwch, lle graddiodd ym 1985.[2][3][4][5] Yna cwblhaodd brentisiaeth dwy flynedd fel rhwymwr llyfrau cyn gweithio mewn nifer o theatrau yn creu propiau ac yn goruchwylio'r dillad theatrig.[6][7][8]
Theatr
golyguO 1988 i 1990 bu Erpenbeck yn astudio theatr ym Mhrifysgol Humboldt yn Berlin. Yn 1990 newidiodd ei hastudiaethau i Gyfarwyddwr Theatr Gerdd (yn astudio gyda Ruth Berghaus, Heiner Müller a Peter Konwitschny, ymhlith eraill) ym Mhrifysgol Cerddoriaeth Hanns Eisler. Ar ôl cwblhau ei hastudiaethau'n llwyddiannus yn 1994 (gyda chynhyrchiad o opera Hwngaraidd gan Béla Bartók, A kékszakállú herceg vára yn ei heglwys leol ac yn theatr y Kunsthaus Tacheles, treuliodd amser fel cyfarwyddwr cynorthwyol yn y tŷ opera yn Graz. Yn 1997 cynhyrchodd Erwartung gan Schoenberg, a A kékszakállú herceg vára elwaith, a premiere-byd o'i gwaith hi ei hun Saith Bywyd Cath. Acis and Galatea (George Frideric Handel) a Zaide (Wolfgang Amadeus Mozart). [9][10][11][12]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig arall yr ysgrifennodd y mae: Wörterbuch, Gehen, ging a gegangen.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, Academi y Gwyddorau a'r Llenyddiaeth am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Lenyddol Hasenclever Walter (2016), Gwobr Hans Fallada (2014), Gwobr Joseph-Breitbach (2013), Gwobr Thomas-Valentin am Lenyddiaeth (2013), Gwobr Lenyddol Heimito von Doderer (2008), Athro barddoniaeth ym Mhrifysgol Bamberg (2013), Gwobr Llenyddiaeth Ewropeaidd (2015), Croes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Schubart-Literaturpreis (2013), Usedom Literature Prize (2019), Sylt resident writer (2006), Stefan Heym International Award (2023), Gwobr Ryngwladol Man Booker (2024)[13][14][15] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Jenny Erpenbeck wins Independent foreign fiction prize". Guardian. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 3 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Jenny Erpenbeck". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jenny Erpenbeck". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jenny Erpenbeck". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jenny Erpenbeck". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: https://idw-online.de/de/news643627.
- ↑ "Jenny Erpenbeck". New Books in German. Cyrchwyd 17 Ebrill 2011.
- ↑ "Jenny Erpenbeck: Vom Ausgelieferstein". Freiburger Nachrichten. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.[dolen farw]
- ↑ "Und immer wieder der Tod". Die Zeit. Cyrchwyd 5 Chwefror 2017.
- ↑ Alma mater: https://idw-online.de/de/news643627.
- ↑ Galwedigaeth: https://idw-online.de/de/news643627. https://idw-online.de/de/news643627. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 15 Rhagfyr 2022.
- ↑ Aelodaeth: https://idw-online.de/de/news643627.
- ↑ Anrhydeddau: "Die Offizielle Webseiten Stadt Aachen". http://www.neumuenster.de/cms/index.php?article_id=336. "Booker Prize internacional 2024: el premio fue para la escritora alemana Jenny Erpenbeck" (yn Sbaeneg). 21 Mai 2024. Cyrchwyd 26 Mai 2024.
- ↑ "Die Offizielle Webseiten Stadt Aachen".
- ↑ http://www.neumuenster.de/cms/index.php?article_id=336.
- ↑ "Booker Prize internacional 2024: el premio fue para la escritora alemana Jenny Erpenbeck" (yn Sbaeneg). 21 Mai 2024. Cyrchwyd 26 Mai 2024.