Jessie Donaldson
athrawes ac ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth (1799-1889)
Roedd Jessie Donaldson (ganwyd Jessie Heineken; 1799 – 1889) yn athrawes ac ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth.[1][2]
Jessie Donaldson | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1799 Ware |
Bu farw | Medi 1889 Sgeti |
Man preswyl | Abertawe, Ohio |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | athro, ymgyrchydd |
Cafodd ei geni ym Mryste, yn ferch i'r ymgyrchydd gwrth-gaethwasiaeth Samuel Heineken. Gyda'i chwaer, Mary-Ann, Jessie oedd perchennog ysgol yn Abertawe. Priododd Francis Donaldson ym 1840, a symudon nhw i Ohio, UDA.[3] Daeth eu tŷ yn lloches i gaethweision a oedd wedi dianc. Daethant yn ôl i Abertawe ym 1866, ar ôl diddymu caethwasiaeth. Bu farw Francis ym 1873.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Cooper (5 Gorffennaf 2020). "The Welsh woman who left everything behind to help slaves to freedom in America". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2020.
- ↑ "DONALDSON, JESSIE (1799 - 1889), athrawes ac ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-06-17.
- ↑ "Memorial to Jessie Donaldson, Swansea". History Points (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Rhagfyr 2020.