Jessie Woodrow Wilson Sayre

swffragét (1887–1933)

Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Jessie Woodrow Wilson Sayre (28 Awst 1887 - 15 Ionawr 1933) a oedd hefyd yn ferch i Arlywydd yr UDA, Woodrow Wilson ac Ellen Louise Axson. Fel ei thad, roedd yn ymgyrchydd gwleidyddol a gweithiodd yn egnïol dros bleidlais i fenywod, materion cymdeithasol, ac i hyrwyddo galwad ei thad am Gynghrair y Cenhedloedd, a daeth i'r amlwg fel grym ym Mhlaid Ddemocrataidd Massachusetts." Bu'n briod i Francis Bowes Sayre.[1][2][3]

Jessie Woodrow Wilson Sayre
GanwydJessie Woodrow Wilson Edit this on Wikidata
28 Awst 1887 Edit this on Wikidata
Gainesville Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ionawr 1933 Edit this on Wikidata
Cambridge, Massachusetts Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethswffragét Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadWoodrow Wilson Edit this on Wikidata
MamEllen Axson Wilson Edit this on Wikidata
PriodFrancis Bowes Sayre Edit this on Wikidata
PlantFrancis Bowes Sayre, Jr., Eleanor Sayre, Woodrow Wilson Sayre Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Gainesville, Georgia a bu farw yn Cambridge, Massachusetts.

Roedd Jessie Woodrow Wilson yn ail ferch i Woodrow ac Ellen Axson Wilson. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Princeton a Choleg Goucher. Ar ôl iddi raddio o Goucher, bu’n gweithio mewn cartref anheddu yn Philadelphia am dair blynedd.[4]

Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, symudodd y Sayres i Gaergrawnt, Massachusetts, lle derbyniodd Francis swydd ar gyfadran Ysgol y Gyfraith Harvard. Yno, bu’n gweithio er budd y Blaid Ddemocrataidd, Cynghrair y Cenhedloedd, a Chynghrair dros y Bleidlais i Ferched (League of Women Voters).

Anrhydeddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Dyddiad geni: "Jessie Woodrow Wilson Sayre". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jessie Woodrow Wilson". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jessie Sayre". ffeil awdurdod y BnF.
  2. Dyddiad marw: "Jessie Woodrow Wilson Sayre". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jessie Woodrow Wilson". The Peerage. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Jessie Sayre". ffeil awdurdod y BnF.
  3. Doug Wead, "Upstairs at the White House – List of Presidents’ Kids -- Woodrow Wilson Archifwyd 2010-08-23 yn y Peiriant Wayback," at upstairsatthewhitehouse.com, accessed 2010-01-26.
  4. Princeton University Library Mudd Manuscript Library, Jessie Wilson Sayre Finding aid Archifwyd 2011-06-10 yn y Peiriant Wayback, adalwyd 2010-01-26.