Gwleidydd Tsieineaidd oedd Jiang Zemin (17 Awst 192630 Tachwedd 2022) a wasanaethodd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Plaid Gomiwnyddol Tsieina o 1989 i 2002 ac Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina o 1993 i 2003.[1]

Jiang Zemin
Jiang Zemin yn 2002.
Ganwyd17 Awst 1926 Edit this on Wikidata
Yangzhou Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 2022 Edit this on Wikidata
o liwcemia, syndrom amharu ar organau lluosog Edit this on Wikidata
Shanghai Edit this on Wikidata
Man preswylShanghai, Zhongnanhai, Shanghai Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Yangzhou High School of Jiangxi Province Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, peiriannydd trydanol Edit this on Wikidata
SwyddGeneral Secretary of the Chinese Communist Party, Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina, Chairman of the Central Military Commission of the Chinese Communist Party, member of the Politburo Standing Committee of the Chinese Communist Party Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol Tsieina Edit this on Wikidata
MamWang Zhelan Edit this on Wikidata
PriodWang Yeping Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of the Golden Eagle, Grand Cross of the Order of Good Hope, Order of State of Republic of Turkey, Urdd Tywysog Yaroslav Gall, Dosbarth 1af, Grand Cross of the Order of Tahiti Nui, Medal Pushkin, Urdd dros ryddid, Urdd José Martí, Urdd Coron Brwnei, Order of Tahiti Nui, Congolese Order of Merit, Palestinian Bethlehem 2000 Award Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Yangzhou, yn nhalaith Jiangsu, Gweriniaeth Tsieina. Ymunodd â'r Blaid Gomiwnyddol ym 1946. Graddiodd o Brifysgol Jiao Tong Shanghai ym 1947 gyda gradd mewn beirianneg drydanol. Gweithiodd yn beiriannwr mewn sawl ffatri, ac yna yn bennaeth ar sefydliadau ymchwil technolegol ar draws Tsieina. Ym 1980, fe'i penodwyd yn is-weinidog y comisiwn gwladol ar fewnforion ac allforion. Esgynnodd i swyddi llywodraethol eraill, ac ymunodd â Phwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol ym 1982 a'r Biwro Gwleidyddol ym 1987. Gwasanaethodd hefyd yn ddiplomydd i Rwmania.[2]

Ad-drefnwyd arweinwyr y llywodraeth Tsieineaidd yn sgil protestiadau Sgwâr Tiananmen ym 1989, a phenodwyd Jiang i olynu Zhao Ziyang yn swydd Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol ac i olynu Deng Xiaoping yn Gadeirydd y Comisiwn Milwrol Canolog. Ym 1993, etholwyd Jiang yn Arlywydd Gweriniaeth Pobl Tsieina gan Gyngres Genedlaethol y Bobl, ac wedi marwolaeth Deng ym 1997 ystyriwyd Jiang yn arweinydd goruchaf y wlad. Aeth ati i barhau â pholisïau Deng o ddiwygio'r economi heb ildio awdurdodaeth y Blaid Gomiwnyddol dros gymdeithas Tsieina, gan gynnwys preifateiddio nifer o ddiwydiannau. Ceisiodd hefyd wella cysylltiadau Tsieina ag Unol Daleithiau America.

Ymddiswyddodd Jiang fel Ysgrifennydd Cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol yn 2002, ac ildiodd yr arlywyddiaeth yn 2003; fe'i olynwyd yn y ddwy swydd gan Hu Jintao. Bu farw Jiang Zemin yn Shanghai yn 96 oed yn 2022.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Jiang Zemin. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 4 Rhagfyr 2022.
  2. (Saesneg) "Jiang Zemin obituary: China's tough-talking reformer", BBC (30 Tachwedd 2022). Adalwyd ar 4 Rhagfyr 2022.

Darllen pellach golygu

  • Bruce Gilley, Tiger on the Brink: Jiang Zemin and China's New Elite (Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1998).
  • Robert Lawrence Kuhn, The Man Who Changed China: The Life and Legacy of Jiang Zemin (Efrog Newydd: Crown Publishers, 2004).