Preifateiddio
Y gwrthwyneb i wladoli, sef tynnu diwydiannau a mentrau cyhoeddus o afael y llywodraeth a'u cynnig ar y farchnad neu drwy gytundeb i gwmnïau preifat yw preifateiddio. Mae'n bolisi a gysylltir â llywodraethau asgell dde sy'n arddel athrawiaeth laissez-faire.
Yn y DU, cysylltir y gair â chyfnod llywodraeth Margaret Thatcher yn y 1980au. Dan ei llywodraeth Geidwadol asgell dde cafodd y llu o wasanaethau cyhoeddus a diwydiannau a wladolwyd gan lywodraethau Llafur cyn hynny, gan gynnwys y rheilffyrdd (gweler British Rail), dŵr, trydan, nwy, olew, glo a dur, eu torri i fyny a'u gwerthu. Roedd y polisïau hyn yn amhoblogaidd gan yr undebau llafur, yn enwedig Undeb y Glowyr dan arweinyddiaeth Arthur Scargill, a wrthwynebai'n ffyrnig cynlluniau Thatcher i breifateiddio Glo Prydain; roedd hyn yn elfen ganolog yn yr anghydfod a arweiniodd at Streic Fawr y Glowyr.
Yn fwy diweddar mae sawl llywodraeth wedi gweithredu polisi preifateiddio, er nad ydynt bob tro wedi mynd mor bell â'r cyn-lywodraeth Dorïaidd yng ngwledydd Prydain, e.e. yn Rwsia ar ôl cwymp yr Undeb Sofietaidd ac yn Sbaen.