Johann Faust
Meddyg a dewin o'r Almaen oedd Dr. Johannes Faust, ganed fel Georg Faust (c. 1480 - c. 1540).
Johann Faust | |
---|---|
Ganwyd | 1480 Knittlingen |
Bu farw | 1540 Staufen im Breisgau |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | astroleg, seryddwr |
Ganed ef yn Knittlingen, Helmstadt neu Roda yn Swabia. Teithiai o amgylch fel meddyg a sêr-ddewin. Roedd amheuon ei fod yn ymhel â dewiniaeth ddu. Credir iddo gael ei lofruddio.
Yn fuan ar ôl ei farwolaeth, tyfodd chwedl Faust, ei fod wedi gwneud cytundeb â'r diafol. Defnyddiwyd y chwedl yn ddiweddarâch gan nifer o lenorion, yn cynnwys Johann Wolfgang von Goethe.