John Cox
Argraffydd, llyfrwerthwr, a phostfeistr o Gymro oedd John Cox (1800 - 1870).[1]
John Cox | |
---|---|
Ganwyd | Tachwedd 1800 Aberystwyth |
Bu farw | Chwefror 1870 Aberystwyth |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | argraffydd, llyfrwerthwr, postfeistr, cyhoeddwr, rhwymwr llyfrau, gwerthwyr deunydd ysgrifennu, llyfrgellydd |
Cefndir
golyguGanwyd Cox yn Aberystwyth yn blentyn i William Cox, llyfrwerthwr ac Anne ei wraig. Dydy union ddyddiad ei eni ddim yn hysbys ond cafodd ei fedyddio yn Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Aberystwyth ar 14 Rhagfyr 1800[2] Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Aberystwyth.
Gyrfa
golyguAeth Cox i Gaerfyrddin fel prentis argraffydd gan ddychwelyd i Aberystwyth ym 1824 i agor siop lyfrau ac argraffdy, ar y cyd a William ei frawd, ar yr Heol Fawr. Yn ystod ei yrfa fel argraffydd symudodd ei wasg i New Street ac yna i Heol y Wig.[3]
Yn fuan wedi cychwyn ar ei yrfa yn Aberystwyth argraffodd Cox gyfrol fechan o'r enw, A Guide to Aberystwyth; T. J. Llewelyn Pritchard. Cyhoeddodd hefyd argraffiad cyntaf o nofel Pritchard Twm Siôn Cati.[4]
Roedd yn cyhoeddi baledi i'w gwerthu gan y baledwyr wrth iddynt ganu, gan gynnwys un i David Rice, o dan y teitl "Llongddrylliad Frances Mary, 1826", oedd yn cynnwys dros 80 pennill.[5]
Gan fod teulu Cox yn eglwyswyr selog ffafriwyd gwasg John Cox gan awduron Eglwys Loegr fel y lle i gyhoeddi eu llyfrau. Ef oedd argraffydd llyfrau gan yr Archddiacon Hughes a'r Parch William Jones Periglor Llandwrog a phregeth gan y Parch Isaac Williams ymysg awduron Anglicanaidd amlwg eraill. Cyhoeddodd llyfrau barddoniaeth George Ernest John Powell,[6] Nanteos Quod Libet (1860): Poems by Miolnir, Nanteos" (1861) a "Poems, by Miolnir Nanteos, Second Series" (1861).[7]
Rhoddodd gychwyn ar ddau bapur newydd wythnosol aflwyddiannus The Demetian Mirror; or Aberystwyth Reporter and Visitants’ Informant, a ymddangosodd rhwng Awst a Hydref 1840, a The Aberystwyth Chronicle, and Illustrated Times, a gyhoeddwyd rhwng Mehefin a Rhagfyr 1855. Ef a agorodd lyfrgell yn y dref gyntaf ac roedd Cox's Circulating Library yn cael ei werthfawrogi gan drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.[8]
Marwolaeth
golyguBu farw Cox yn ddibriod yn Aberystwyth ar ddechrau 1870 yn 69 mlwydd oed. Cafodd ei gladdu ym mynwent Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Aberystwyth ar 5 Chwefror 1870.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ John Cox yn y Bywgraffiadur ar-lein
- ↑ Gwasanaeth Archifau Cymru. Cofrestr Bedydd Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Aberystwyth 1788-1812 Tud. 17 14 Rhagfyr 1800
- ↑ "Swyddfa John Cox" - Cymru Cyf. 32, 1907
- ↑ Bye-gones relating to Wales and the border counties Rhagfyr 1881
- ↑ "Baledau Cymru" - Cymru, Cyf. 27, 1904
- ↑ Teulu Powell Nanteos Y Bywgraffiadur ar lein
- ↑ "Llanbadarn Fawr" - Cymru Cyf. 42, 1912
- ↑ SOME ASPECTS OF THE HISTORY OF ABERYSTWYTH - Ceredigion: Journal of the Cardiganshire Antiquarian Society Cyf. 4, 1960-1963 tud. 28
- ↑ Gwasanaeth Archifau Cymru, Cofnodion Claddu Aberystwyth 1844-1906; 1870 rhif 1591