Nanteos
Plasdy yng nghymuned Llanfarian ger Aberystwyth, Ceredigion yw Nanteos. Fe'i adeiladwyd yn yr arddull Newydd-Glasurol gan deulu'r Poweliaid yn y 18g.
Math | gwesty mewn plasty gwledig, plasty |
---|---|
Cysylltir gyda | Y Greal Santaidd |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Nanteos Estate |
Lleoliad | Llanfarian |
Sir | Llanfarian |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 59 metr |
Cyfesurynnau | 52.3882°N 4.0291°W |
Perchnogaeth | William Edward Powell, William Powell, Thomas Powell |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cysylltwyd Y Greal Santaidd â phlasdy Nanteos. Roedd llestr yno a elwid wrth yr enw "Cwpan Nanteos". Dywedid mai hwn oedd y Greal ei hun, wedi ei gludo o Ynys Wydrin i Abaty Ystrad Fflur ac oddi yna i Nanteos yn sgîl diddymu'r mynachlogydd yn 1536. Yn ôl y chwedl, daeth Joseff o Arimathea o Balesteina i Ynys Wydrin gyda'r llestr arbennig. Credid ei bod yn iachau afiechydon, yn enwedig afiechyd gwaed.
Ymddengys nad oes sail i honiad George Powell fod Wagner wedi aros yn Nanteos a chael ei ysbrydoli i gyfansoddi ei opera Parsifal ar ôl yfed o'r gwpan. Roedd Powell yn hoff iawn o waith Wagner ond ymwelodd y cyfansoddwr â gwledydd Prydain yn 1855, tua deng mlynedd cyn iddo ysgrifennu Parsifal.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, d.g. Nanteos.