John Davies (Brychan)
bardd, golygydd, a hyrwyddwr mudiad y cymdeithasau cyfeillgar
Bardd o dde-ddwyrain Cymru oedd John Davies (1784? - 20 Mehefin 1864), a gyhoeddai wrth yr enw Brychan.
John Davies | |
---|---|
Ffugenw | Brychan ![]() |
Ganwyd | c. 1784 ![]() Llanwrthwl ![]() |
Bu farw | 20 Mehefin 1864 ![]() Unknown ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | bardd, cyhoeddwr, llyfrwerthwr, gwerthwyr deunydd ysgrifennu ![]() |
BywgraffiadGolygu
Brodor o blwyf Llanwrthwl yn Sir Frycheiniog (de Powys) ydoedd. Yn ddyn ifanc, symudodd oddi yno i weithio fel glöwr ym mhyllau Tredegar. Yno daeth yn llyfrwerthwr a chyhoeddwr a daeth yn ffigwr adnabyddus yng nghylchoedd llenyddol Gwent a Morgannwg. Roedd yn un o'r rhai a dderbyniwyd yn aelod o Orsedd Beirdd Ynys Prydain yn 1818, flwyddyn cyn i'r sefydliad ffug hynafol, a sefydlwyd gan Iolo Morganwg yn 1792, gael ei gysylltu â'r Eisteddfod.
Roedd Brychan yn adnabyddus yn bennaf fel ffigwr cyhoeddus ac fel ffigwr eisteddfodol. Golygodd sawl blodeugerdd Gymraeg boblogaidd, gan gynnwys Llais Awen Gwent a Morgannwg (1824).
LlyfryddiaethGolygu
Golygydd:
- Llais Awen Gwent a Morgannwg (1824)
- Y Gog (1825)
- Y Llinos (1827)
- Y Fwyalchen (1835)