John Davies (peiriannydd)
peiriannydd, saer, gof, gwneuthurwr clociau, bardd a cherddor
Peiriannydd o Gymru oedd John Davies, "Peiriannydd Gwynedd" (1783 – 20 Medi 1855). Roedd hefyd yn saer, gof, clociwr, bardd a cherddor.[1]
John Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1783 Llanbryn-mair |
Bu farw | 20 Medi 1855 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | peiriannydd, bardd, cerddor, gwaith y saer |
Ganwyd yn Hafod-y-foel, Llanbryn-mair. Roedd yn frawd i'r Parchedig Evan Davies (Eta Delta). Yn y Ddol-goch, Talerddig, ym 1820 sefydlodd fusnes gwneuthur peiriannau chawlu, cribo a nyddu i ffatrïoedd gwlân Cymru. Sefydlodd ganghennau o'i fusnes yn Nolgellau a Chaerfyrddin.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Davies, John ("Peirianydd Gwynedd"; 1783–1855). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 23 Medi 2013.