Bardd yn yr iaith Saesneg a pheintiwr oedd John Dyer (1699Rhagfyr 1757), a aned yn Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin ac a ymfalchiai yn ei linach Gymreig. Fe'i gwnaed yn offeiriad yn Eglwys Lloegr yn 1741.[1] Cyfeirir ato mewn soned gan y bardd Wordsworth, To The Poet, John Dyer[2]

John Dyer
Ganwyd1699 Edit this on Wikidata
Llanfynydd Edit this on Wikidata
Bedyddiwyd13 Awst 1699 (yn y Calendr IwliaiddEdit this on Wikidata
Bu farwRhagfyr 1757 Edit this on Wikidata
Coningsby Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus amGrongar Hill, The Ruins of Rome Edit this on Wikidata
Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin, lle bedyddiwyd Dyer
Eglwys Mihangel Sant lle claddwyd ef
Dwy eglwys:
Chwith: Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin lle bedyddiwyd John Dyer
ac ar y dde, Eglwys Coningsby, Swydd Lincoln lle claddwyd ef.

Mae John Dyer yn adnabyddus yn bennaf am ei gerdd "Grongar Hill" a hefyd The Ruins of Rome, The Fleece a Written at Ocriculum. Ymhlith ei luniau sydd wedi goroesi mae llun dyfrlliw o gastell Caerffili (1733).

Byr iawn oedd ei boblogrwydd wedi cyhoeddi ei gerdd fwyaf, Grongar Hill, er i'r bardd John Gray frolio'i ddychymyg a'i arddull, “more of poetry in his imagination than almost any of our number, but rough and injudicious.”[1]

Geni a magu golygu

Fe'i anwyd y pedwerydd plentyn allan o chwech i Robert a Catherine Cocks Dyer yn "Abersanen" , Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin - pum milltir o gastell ar fryn o'r enw Grongar Hill.[3]

 
Plasdy Aberglasni yn 2015

Ni wyddys union ddyddiad ei eni, ond gwyddom iddo gael ei fedyddio ar 13 Awst 1699, ac felly y byddai wedi'i eni rywdro yn y pythefnos cyn y diwrnod hwnnw.[4] Roedd ei daid yn warden yn Eglwys Llanfynydd a'i dad yn gyfreithiwr llwyddiannus a oedd yn berchen ar sawl adeilad yn yr ardal. Oherwydd fod iddynt chwech o blant, symudodd y teulu i fyw i blasdy Aberglasni. Sonia John Dyer am y fan hon yn ei gerdd "The Country Walk" .

Ysgol fonedd yn Llundain yw Coleg Brenhinol Sant Pedr a adwaenir fel 'Ysgol Westminster' (Saesneg: Westminster School). Fe'i lleolir yn Westminster, ger yr Abaty, ac i'r ysgol honno y danfonwyd John rhwng 1711 a 1733,[5] ysgol roedd yn ei chasau. Oddi yno, dychwelodd i Gymru fel prentis cyfreithiwr yn swyddfa'i dad. Pan fu farw ei dad aeth yn ddisgybl at Jonathan Richardson (1665-1745), awdur cyfrol Theory of Painting (cyhoeddwyd yn 1715).

Gwaith a marwolaeth golygu

Teithiodd drwy Dde Cymru a'r gororau yn paentio ac oddi yno i'r Eidal i ddatblygu ei ddawn fel arlunydd. Yn 1726, trodd ei olygon tua Lloegr lle y daeth yn gyfaill i'r dramodydd James Thomson a Richard Savage.

Ar un cyfnod dechreuodd ffermio yn Mapleton, Swydd Henffordd, ond ni pharodd yno'n hir a phriododd 'Miss Ensor, ac fe'i ordeiniwyd yn yr eglwys. Wedi hynny bu mewn sawl swydd gwahanol yng Nghaerlŷr a Lincoln. Erbyn1751 roedd yn offeiriad yn Eglwys Mihangel Sant, Coningsby, lle claddwyd ef ar 15 Rhagfyr 1757.

Llyfryddiaeth golygu

  • Belinda Humfrey, John Dyer (Cyfres Writers of Wales, Caerdydd, 1980).

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Shaw, Thomas B. A Complete Manual of English Literature. Ed. William Smith. New York: Sheldon & Co., 1872. 372. Print.
  2. Gerrard, Christine. "John Dyer (1699-1757)." Eighteenth-Century Poetry An Annotated Anthology (Blackwell Annotated Anthologies). Ail rifyn. Grand Rapids: Blackwell Limited, 2004. 239-59. Print.
  3. Y Bywgraffiadur Arlein; gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 15 Rhagfyr 2016.
  4. Williams, Ralph M. Poet, Painter and Parson the Life of John Dyer. New York: Bookman Associates, 1956. 21. Print.
  5. Williams, Ralph M. Poet, Painter and Parson the Life of John Dyer. Efrog Newydd: Bookman Associates, 1956. 25. Print.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.