John Evans (glöwr)
Glöwr o ardal Coedpoeth, Wrecsam oedd John Evans (tua 1792 - 27 Ebrill 1865) a ddihangodd o drychineb wedi deuddeg diwrnod wedi'i gaethiwo o dan y ddaear.
John Evans | |
---|---|
Ganwyd | 1792 |
Bu farw | 27 Ebrill 1865 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mwynwr |
Digwyddodd y ddamwain ar 27 Medi 1819 ym Mhwll Glo Pentre Fron yng Nghoedpoeth. Roedd pwll glo arall yn ffinio gyda Phentre Farm, rhannau ohono yn llawn dŵr. Ymddengys fod llawer o'r glöwyr yn bur bryderus ynglŷn â hyn a'u bod wedi rhybuddio'r stiwardiaid ynglŷn â'r peryglon fwy nag unwaith, ond i ddim pwrpas.
Ar fore'r 27ain aeth 19 o löwyr i lawr y pwll fel arfer. Dihangodd 12 ohonynt yn syth pan ddaeth dŵr i'r pwll, ac achubwyd 4 arall a oedd yn nes at lygad y pwll. Roedd Edward Salisbury, John Taylor a John Evans yn dal ar goll. Pwmpiwyd dŵr o'r pwll am wythnos ac ar yr wythfed diwrnod, aeth glöwyr i lawr y pwll, lle canfuwyd cyrff Taylor a Salisbury. Paratowyd eirch ac amdoeau ar gyfer y tri, a thorrwyd eu henwau ar eu heirch. Ar ddiwedd y deuddegfed diwrnod clywyd llais John Evans. Cliriwyd llwybr tuag ato a daeth o'n ôl i'r wyneb. Roedd wedi treulio deuddeg diwrnod heb olau neu fwyd ar wahân i ddŵr a o oedd yn dripian o'r to a chanhwyllau. Daeth â'r arch adref, lle defnyddiwyd ef fel cwpwrdd.
Bu farw ar 27 Ebrill 1865 a chladdwyd ef ym mynwent Capel yr Adwy, yng Nghoedpoeth.
Cyfeiriadau
golygu- Y Cymro, 25 Medi 1979
- Gwefan MinerAncestry (Saesneg)