John Geraint Jenkins
hanesydd a churadur
Curadur Amgueddfa Werin Cymru ac awdur nifer o gyfrolau oedd John Geraint Jenkins (4 Ionawr 1929 – 5 Awst 2009)[1], yn ysgrifennu fel J. Geraint Jenkins. Bu farw yng Nghaerfyrddin yn 80 mlwydd oed.[1]
John Geraint Jenkins | |
---|---|
Ganwyd | 4 Ionawr 1929 Llangrannog |
Bu farw | 5 Awst 2009 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | curadur, hanesydd |
Swydd | Uchel Siryf Dyfed |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Llangrannog, Ceredigion, i deulu o forwyr. Addysgwyd ef yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, Prifysgol Abertawe a prifysgol Aberystwyth. Treuliodd naw mlynedd yn gweithio yn yr Amgueddfa Ddiwydiant a Môr, cyn symud i Sain Ffagan i ddod yn guradur yr Amgueddfa Werin.
Wedi ymddeol, dychwelodd i Geredigion, a bu'n gynghorydd sir am ddeng mlynedd ac yn Gadeirydd y Cyngor yn 2002–03.
Bywyd personol
golyguPriododd Nansi Jarman yn 1954 a roedd ganddynt tri mab - David, Gareth a Richard, bu farw yn 2000.[2]
Cyhoeddiadau
golygu- The Welsh Woollen Industry (1969)
- Nets and Coracles (1974)
- Ar lan hen afon: golwg ar ddiwydiannau afonydd Cymru
- Morwr Tir Sych (hunangofiant)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Stephens, Meic. J. Geraint Jenkins: Maritime historian and authority on rural crafts (en) , The Independent, 24 Medi 2009.
- ↑ Y Dr J. Geraint Jenkins, 1929-2009. Amgueddfa Cymru (28 Awst 2009). Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.