John Graham Chambers

gweinyddwr chwaraeon Cymreig

Athletwr o Gymro oedd John Graham Chambers (12 Chwefror 18434 Mawrth 1883). Cyflawnodd nifer o orchestion yn y byd chwaraeon yn ystod ei fywyd.

John Graham Chambers
Ganwyd12 Chwefror 1843 Edit this on Wikidata
Plas Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mawrth 1883 Edit this on Wikidata
Earl's Court Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethswyddog chwaraeon, paffiwr, rhwyfwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auInternational Boxing Hall of Fame Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Rhwyfodd i Gaergrawnt, sefydlodd chwaraeon rhyng-golegol, hyfforddodd bedwar criw buddugol y Ras Gychod, dyfeisiodd Rheolau Queensberry, llwyfannodd Rownd Derfynol y Cwpan a Regatta Thames, sefydlodd bencampwriaethau ar gyfer biliards, bocsio, seiclo, reslo ac athletau. Rhwyfod wrth ochr Matthew Webb wrth iddo nofio'r Sianel a golygodd bapur newydd cenedlaethol.

Bywyd cynnar golygu

 
Plas Llanelli, man geni Chambers

Ganed Chambers yn Mhlas Llanelli yn nhref Llanelli, Sir Gaerfyrddin, Cymru.[1] Roedd yn fabi i William Chambers, tirfeddiannwr Cymreig o'r teulu Chambers. Addysgwyd ef yn Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd yn BA, enillodd y Colquhoun Sculls a daeth yn Llywydd Clwb Cychod y Brifysgol.

Gyrfa golygu

Cyfundrefnodd Chambers y “Rheolau Marcwis Queensberry”, yr hyn y mae bocsio modern yn seiliedig arnynt. Yn 1867, sefydlodd y rheolau, sy'n cynnwys y defnydd gofynnol o fenig bocsio, y cyfrif i ddeg a rowndiau tri munud. Mae'n aelod o'r International Boxing Hall of Fame.

Bu hefyd yn gatalydd yn sefydlu athletau amatur ym Mhrydain, wedi iddo sefydlu'r Amateur Athletic Club yn 1866, a bu'n bresennol pan ffurfiwyd y Gymdeithas Athletau Amatur yn 1880.[2][3]

Rhwyfodd Chambers ddwywaith hefyd yn y Ras Gychod dros Gaergrawnt ym 1862 a 1863, gan golli’r ddau dro, a hyfforddi chwe chriw Light Blues ym 1865-66, unwaith eto wedi ei trechu. O 1871-74 hyfforddodd Caergrawnt pan gafwyd pedair buddugoliaeth ar ôl ei gilydd, gan gynnwys y gyntaf ar seddau llithro yn 1873.

Bywyd diweddarach golygu

Bu farw Chambers, yn 40 oed, yn 10 Wetherby Terrace, Earls Court, Llundain ar 4 Mawrth 1883 ac mae wedi'i gladdu ym Mynwent Brompton.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Bryant, M. A. "Chambers, John Graham". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/5075.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
  2. Holt, Richard. "Amateur Athletic Association (act. 1880–1991)". oxforddnb.com. Cyrchwyd 5 July 2012.
  3. Williams, Clive. "Welsh Athletics: Our History". welshathletics.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 August 2012. Cyrchwyd 5 July 2012.

Dolenni allanol golygu