John James Hughes (Alfardd)
Bardd a llenor Cymraeg a golygydd oedd John James Hughes (1842 – 8 Ionawr 1875), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Alfardd. Roedd yn amddiffynnydd pybyr i'r iaith Gymraeg, a hawliau Cymru a'i gwerin.[1] Roedd yn frodor o Ynys Môn.
John James Hughes | |
---|---|
Ffugenw | Alfardd |
Ganwyd | 1842 Carreg-lefn |
Bu farw | 8 Ionawr 1875 Bangor |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, bardd, golygydd |
Bywgraffiad
golyguGaned John James mewn bwthyn gerllaw Carreglefn, ym mhlwyf Llanbadrig yn y flwyddyn 1842. Bu farw ei dad cyn ei eni. Cafodd addysg ddyddiol o saith hyd ddeuddeng mlwydd oed. Wedi hynny, gwasanaethodd am rai tymhorau fel gwas fferm gydag amaethyddwyr yr ardal. Pan yn 16 mlwydd oed symudodd i Fangor, lle y bu am dair blynedd yn gertiwr i adeiladydd, ac wedi hynny am bum mlynedd yn gweini ar seiri meini.[1]
Yn 1866 ymunodd â'r heddlu lle daeth yn argyhoeddedig o anghyfiawnder y drefn Seisnig yng Nghymru a dechreuodd ysgrifennu erthyglau ar bynciau llosg y dydd gan ennill sylw iddo'i hun. Yn 1870 cafodd ei benodi'n is-olygydd yr Herald Cymraeg. Bu farw yn Ionawr 1875, yn 33 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Glanadda, Bangor.[1]
Gwleidyddiaeth
golyguYn ôl ei fywgraffydd, R. Môn Williams:
- "Yr oedd ei sêl dros bopeth Cymreig yn angherddol, a chynhyrfodd y wlad yn erbyn penodiad barnwyr Seisnig i'r llysoedd yng Nghymru. Dinoethodd anghyfiawnder a gorthrwm ymhob cylch, ac amcanodd dros ddylanwad y Wasg er daioni y werin."[1]
Llenor
golyguCyfranodd Alfardd nifer o gerddi ac erthyglau i gylchgronau Cymraeg y cyfnod. Yn ogystal, ysgrifennodd ddwy nofel yn Gymraeg, sef Yr Hafoty Gwyn ac Ifor Wyn[1]; themâu moesol a dirwestol yn arddull gweddill nofelau Cymraeg y cyfnod a geir ynddynt.
Llyfryddiaeth
golygu- Ifor Owen. Nofel.
- Yr Hafoty Gwyn. Nofel.