Ioan Siencyn

prydydd ac athro (1716-1796)

Bardd Cymraeg oedd John Jenkin (17161796) neu Ioan Siencyn (hefyd Ioan Siengcin).[1]

Ioan Siencyn
FfugenwIoan Siencyn Edit this on Wikidata
Ganwyd1716 Edit this on Wikidata
Llechryd Edit this on Wikidata
Bu farw1796 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Fe'i ganed ym mhlwyf Llechryd, Ceredigion yn 1716, yn fab i grydd a bardd gwlad. Cafodd ei brentisio fel crydd i'w dad a dysgodd elfennau barddoniaeth ganddo hefyd. O 1754 hyd 1793 enillodd ei fywiolaeth fel athro yn Nanhyfer, Sir Benfro, mewn un o ysgolion Griffith Jones, Llanddowror.[1]

Fel bardd, roedd yn ymwybodol o grefft draddodiadol Beirdd yr Uchelwyr, er nad yn perthyn iddynt. Canai gerddi mawl ar y mesurau caeth a rhydd i uchelwyr ei fro. Cyhoeddwyd detholiad o'i gerddi yn 1823.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Casgliad o Ganiadau Difyr (1823)

Cyhoeddwyd 'Cân i ddymuno llwyddiant i long newydd... a elwir Hebog' yn:

  • E. G. Millward (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Cyhoeddiadau Barddas, 1991). Rhif 47.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru