Nanhyfer

pentref a chymuned yn Sir Benfro

Pentref bychan a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Nanhyfer[1] neu Nyfer (Saesneg: Nevern). Saif yng ngogledd-ddwyrain y sir gerllaw Afon Nyfer a bryniau Preseli.

Nanhyfer
Church of St. Brynach, Nevern - geograph.org.uk - 29467.jpg
Mathcymuned, pentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0247°N 4.7956°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000454 Edit this on Wikidata
Cod OSSN082400 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)

Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Sant Brynach; a chredir bod yr eglwys bresennol, sy'n dyddio o'r cyfnod Normanaidd ond wedi ei hail-adeiladu'n helaeth, ar safle clas Brynach yn y 6g. Yn y fynwent mae Croes Geltaidd yn dyddio o'r 10g neu ddechrau'r 11g. Gerllaw mae carreg gyda'r arysgrif Ladin "VITALIANI EMERTO" ac mewn Ogam "vitaliani". Yn yr eglwys mae maen arall gyda'r arysgrif "MAGLOCUNI FILI CLUTORI" mewn Lladin a "maglicunas maqi clutar.." mewn Ogam. Credir bod y garreg yma yn dyddio o'r 5ed neu'r 6g. Roedd yr hynafiaethydd George Owen yn frodor o Nanhyfer, ac mae wedi ei gladdu yma.

Rhyw 150 medr i'r gogledd-orllewin o'r eglwys mae gweddillion Castell Nanhyfer, a adeiladwyd gan Robert fitz Martin tua 1108. Dinistriwyd y castell gan y Cymry yn 1136. Yn ddiweddarach cafodd ei fab, William fitz Martin, y castell yn ôl pan briododd ferch Rhys ap Gruffydd, ond tua 1189 gyrrodd Rhys ef ohono.

Mae cromlech Pentre Ifan rhyw ddwy filltir o'r pentref.

Castell nanhyfer
Meini Nanhyfer

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Nanhyfer (pob oed) (865)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Nanhyfer) (417)
  
49.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Nanhyfer) (498)
  
57.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Nanhyfer) (126)
  
35.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]