John Jones (Coch Bach y Bala)

lleidr Cymreig (Coch Bach y Bala)

Lleidr a photsiwr oedd John Jones (1854 - 1913), mwy adnabyddus fel Coch Bach Y Bala. Gelwid ef hefyd The Little Welsh Terror a The Little Turpin. Roedd yn adnabyddus oherwydd ei ddawn i ddianc o garchardai, a daeth yn fath o arwr gwerin.

John Jones
FfugenwCoch Bach y Bala Edit this on Wikidata
Ganwyd1854 Edit this on Wikidata
Sir Ddinbych Edit this on Wikidata
Bu farw1913 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Cysylltir gydaCarchar Rhuthun Edit this on Wikidata
Bedd John Jones (Coch Bach y Bala) ym mynwent Llanelidan

Yn 1913, dihangodd o garchar Rhuthun, ond yn fuan wedyn cafodd ei saethu gan dirfeddiannwr (sgweiar Euarth) ger Llanfair Dyffryn Clwyd, a gwaedodd i farwolaeth. Cafwyd ymateb cyhoeddus ffyrnig i hyn gan Gymry lleol. Bu farw o'i glwyfau a chladdwyd ef yn Llanelidan.

Comisiynwyd cân o'r enw Coch Bach y Bala ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014. Ysgrifennwyd geiriau'r gân gan Mair Tomos Ifans a'r gerddoriaeth gan Sioned Webb a'i perfformiwyd yn y gystadleuaeth i gorau blwyddyn 7, 8 a 9.[1] Ysgol Uwchradd Brynrefail cipiodd y wobr cyntaf.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Coch Bach y Bala". Cwmni Cyhoeddi Gwynn. Cyrchwyd 30 Mai 2014.
  2. "Canlyniadau Cystadleuthau Llwyfan Dydd Iau, 29 Mai 2014". Urdd Gobaith Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-21. Cyrchwyd 30 Mai 2014.

Dolenni allanol golygu