John Jones (Eos Bradwen)

cerddor (Eos Bradwen) (1831 -1899)

Roedd John Jones (Eos Bradwen) (16 Hydref, 183129 Mai, 1899) yn gerddor, cyfansoddwr a bardd Cymreig

John Jones
Ganwyd16 Hydref 1831 Edit this on Wikidata
Tal-y-llyn Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mai 1899 Edit this on Wikidata
Caernarfon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcerddor Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Eos Bradwen yn Maesybwlch, ger Tal-y-llyn, Sir Feirionnydd (Gwynedd bellach) , yn blentyn i William Jones ac Elizabeth (née Williams). Chwarelwr yng ngwaith llechi Aberllefenni oedd ei dad. [1]Roedd teulu ei fam yn un tra cherddorol, ei thad hi oedd Thomas Williams, arweinydd y gân yng Nghapel Rheoboth, Corris.[2]

Swydd gyntaf Eos Bradwen oedd fel chwarelwr yn chwarel Gaewern, Corris [3] Mae David Owen Corris yn ei gofio yn cyfansoddi tonau tra wrth ei waith yn y chwarel "Yr wyf yn ei gofio yn dda yn gweithio yn fy ymyl yn "Tyllau'r Coed," Gaewern, pan y neidiai i fyny oddiar y fainc naddu, ac âi o'r neilldu am ychydig fnnudau, pryd y dychwelai yn ôl a llechan yn ei law, ar yr hon y byddai wedi dotio rhyw ddarn o dôn oedd wedi rhedeg trwy ei fenydd ar y fainc, a rhag iddo ei cholli, yn ei tharo i lawr ar ddarn o lechan.[4].

Ym 1858 cyhoeddodd ei lyfr cerddorol gyntaf Y Seraph; neu gyfaill y cerddor ieuanc. Yn yr un flwyddyn symudodd i fyw i Aberystwyth lle fu'n gweithio fel cyflenwr deunydd ysgrifennu a rhwymwr llyfrau. [5]

Ym 1863 fe'i penodwyd yn arweinydd côr yr eglwys gadeiriol yn Llanelwy arhosodd yn y swydd hyd 1878 pan symudodd i'r Rhyl i weithio fel swyddog presenoldeb ysgol Sir y Fflint. Symudodd wedyn i Gaernarfon lle fu'n byw gweddill ei oes.[6]

Roedd Eos Bradwen yn eisteddfodwr o fri yn gystadleuydd a beirniad rheolaidd yn yr eisteddfodau lleol rhanbarthol a chenedlaethol. Enillodd llawer o wobrau am ei weithiau barddonol ac am gyfansoddi cerddoriaeth. [7] Enillodd wobr am gyfansoddi geiriau i’r cantata Y Mab Afradlon (1870). Cyfansoddodd gerddoriaeth y cantata Owain Glyndŵr a bu canu mawr ar ei unawdau ‘Bugeiles yr Wyddfa’ a ‘Y Gŵr â’r Siaced Wen’. Enillodd yr opera Dafydd ap Siencyn wobr iddo yn eisteddfod Llandudno yn 1885.[8]

Ym 1959 priododd Eos Bradwen ag Elizabeth Jones (ei henw cyn ac ar ôl priodi). Bu iddynt saith o blant un mab a chwe merch. Bu farw William eu hunig fab trwy foddi yn Llyn Llanberis tra ar daith Ysgol Sul i'r ardal. Priododd ei ferch Elizabeth Ellen â John Robert Gwyndaf Jones yr argraffydd o Gaernarfon, a mab iddynt hwy oedd y cyfansoddwr William Arthur Bradwen Jones[9]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn ei gartref yng Nghaernarfon yn 66 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanbeblig. [10]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "JONES JOHN EOS BRADWEN - Yr Herald Cymraeg". Daniel Rees. 1914-04-07. Cyrchwyd 2021-10-06.
  2. HUNANGOFIANT Y PARCH. GRIFFITH ELLIS, M.A., BOOTLE Y Geninen Cyf. XXVIII Rhif. 2 - Ebrill 1910 Tud. 117
  3. Cofline Chwarel Gaewern, Corris
  4. HANES YR ACHOS YNG NGHORRIS. Gan Mr. DAVID OWEN; Yr Eurgrawn Wesleyaidd Cyf. CI rhif. 12 - Rhagfyr 1909 tud. 474
  5. Yr Archif Genedlaethol Cyfrifiad 1861 ar gyfer 1 Pier Street, Aberystwyth. RG9/4195; Ffolio: 53; Tud: 24
  6. "Y DIWEDDAR EOS BRADWEN - Y Drych". Mather Jones. 1899-06-15. Cyrchwyd 2021-10-06.
  7. Y Bywgraffiadur John Jones (Eos Bradwen)
  8. Jones, John (Eos Bradwen) (1831-99) esponiadur Porth
  9. Cyfansoddwr Y Ford Gron Cyfrol 3, Rhif 11, Medi 1933 tud 252
  10. "CLADDEDIGAETH EOS BRADWEN - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1899-06-06. Cyrchwyd 2021-10-06.