Roedd John Michael Landy AC CVO MBE AC OLY (12 Ebrill 193024 Chwefror 2022) yn athletwr a llywodraethwr talaith o Awstralia. Roedd yr ail ddyn i dorri'r rhwystr pedair munud o hyd yn y rhediad milltir. Daliodd recordiau'r byd ar gyfer y rhediad 1500-metr a'r ras filltir.Rhwng 2001 a 2006, ef oedd y 26ain Llywodraethwr y talaith Victoria.

John Landy
GanwydJohn Michael Landy Edit this on Wikidata
12 Ebrill 1930 Edit this on Wikidata
Hawthorn Edit this on Wikidata
Bu farw24 Chwefror 2022 Edit this on Wikidata
Castlemaine Edit this on Wikidata
Man preswylMelbourne Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Awstralia Awstralia
Alma mater
  • Prifysgol Melbourne
  • Caulfield Grammar School
  • Geelong Grammar School Edit this on Wikidata
Galwedigaethcystadleuydd yn y Gemau Olympaidd, peiriannydd, rhedwr pellter canol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddGovernor of Victoria Edit this on Wikidata
Taldra182 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau69 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Commander of the Royal Victorian Order, Trysor byw genedlaethol Awstraliaid, Athletics Australia Hall of Fame, Australian Sports Medal, Medal Canmlwyddiant, Fellow of the Australian Academy of Technology and Engineering, Cydymaith Urdd Awstralia Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Cafodd Landy ei eni ym Melbourne. [1] Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Ramadeg Goffa Malvern ac Ysgol Ramadeg Geelong. Graddiodd o Brifysgol Melbourne yn 1954, fel Baglor mewn Gwyddor Amaethyddol.

Daeth yn aelod o Chlwb Athletau Urdd Geelong ers 1949; roedd yn aelod o dîm Olympaidd Awstralia yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1952 yn Helsinki a Gemau Olympaidd yr Haf 1956 ym Melbourne, gan gymryd y Llw Olympaidd yng Ngemau Olympaidd 1956. [2] Ar 21 Mehefin 1954, mewn cyfarfod rhyngwladol yn Turku, y Ffindir, daeth e'r ail ddyn, ar ôl Roger Bannister, i gyflawni milltir is-4 munud, gan gofnodi record byd o 3:57.9, a gadarnhawyd gan yr IAAF fel 3 :58.0. [3]

Ar 1 Ionawr 2001, daeth Landy Llywodraethwr Victoria, gan olynu Syr James Gobbo . [4] Ymddeolodd fel llywodraethwr ar 7 Ebrill 2006, ac olynwyd ef gan David de Kretser.[5] Ym mis olaf ei dymor fel llywodraethwr, Landy oedd y rhedwr olaf yn ras gyfnewid Baton y Frenhines yn ystod seremoni agoriadol Gemau'r Gymanwlad 2006 yn stadiwm Maes Criced Melbourne, gan gyflwyno'r baton i'r Frenhines Elisabeth II o'r Deyrnas Unedig. [6]

Bu farw Landy yn ei gartref yn Castlemaine, Victoria, yn 91 oed. [7] [8] Roedd ganddo glefyd Parkinson am gyfnod o amser. [9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "John Landy". commonwealthgames.com.au (yn Saesneg). 17 Mehefin 2020. Cyrchwyd 26 Chwefror 2022.
  2. IOC 1956 Summer Olympics. Olympic.org (6 Medi 2016). Adalwyd 20 Medi 2017.
  3. Litsky, Frank; McDonald, William (25 Chwefror 2022). "John Landy Dies at 91; Dueled Roger Bannister in 'Mile of the Century'". New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Chwefror 2022.
  4. "Governors of Victoria". governor.vic.gov.au (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Chwefror 2022.
  5. Lucas, Clay (20 Ionawr 2006). "Victoria's new governor named". The Age (yn Saesneg). Cyrchwyd 26 Chwefror 2022.
  6. "John Landy". Sport Australia Hall of Fame. Cyrchwyd 25 September 2020.
  7. "John Landy, responsible for Australia's 'finest sporting moment of the century', dies aged 91". ABC News (yn Saesneg). 25 Chwefror 2022. Cyrchwyd 26 Chwefror 2022.
  8. Shefferd, Neil (25 Chwefror 2022). "Second man to break four-minute mile barrier Landy dies aged 91". InsideTheGames.biz. Cyrchwyd 26 Chwefror 2022.
  9. "John Landy, second man to break 4-minute mile, dies at 91". OlympicTalk | NBC Sports (yn Saesneg). 25 Chwefror 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-26. Cyrchwyd 27 Chwefror 2022.