John Lloyd Morgan
Roedd John Lloyd Morgan (13 Chwefror 1861 – 17 Mai 1944) yn gyfreithiwr, yn farnwr a gwleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth Gorllewin Caerfyrddin rhwng 1889-1910.[1][2]
John Lloyd Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 13 Chwefror 1861 Caerfyrddin |
Bu farw | 17 Mai 1944 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, gwleidydd, bargyfreithiwr |
Swydd | Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Cwnsler y Brenin |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Morgan yng Nghaerfyrddin yn fab i'r Parch William Morgan athro diwinyddiaeth yng Ngholeg y Presbyteriaid, Caerfyrddin a Margaret merch Thomas Rees, Capel Tyddist ,Llandeilo ei wraig.
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Tettenhall, Swydd Stafford; Coleg Owens, Manceinion a Choleg y Drindod, Caergrawnt lle graddiodd BA ym 1883.
Ni fu'n briod
Gyrfa
golyguCafodd ei alw i'r bar yn y Deml fewnol ym 1884, fe'i dyrchafwyd yn Gwnsler y Brenin ym 1906. Gwasanaethodd fel Cofrestrydd Chwarter Sirol Abertawe o 1908 i 1910 a Barnwr Llys Sirol Sir Gaerfyrddin o 1910 hyd ei ymddeoliad ym 1926
Gyrfa Wleidyddol
golyguSafodd yn enw'r Blaid Ryddfrydol mewn isetholiad yn etholaeth Gorllewin Caerfyrddin ym 1889 gan ddod i frig y pôl a gan ddal y sedd hyd 1910 pan ymneilltuodd o'r senedd ar gael ei benodi'n farnwr.
Marwolaeth
golyguBu farw yng Nghaerfyrddin yn 83 mlwydd oed.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ‘MORGAN, His Honour John Lloyd’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 16 March 2016
- ↑ MORGAN , JOHN LLOYD (1861 - 1944); [Y Bywgraffiadur http://yba.llgc.org.uk/cy/c2-MORG-LLO-1861.html ] adalwyd 16 Mawrth 2016
- ↑ "Obituary." Times [London, England] 19 May 1944: 7. The Times Digital Archive. Web. 16 Mar. 2016. [1]
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Walter Rice Howell Powell |
Aelod Seneddol Gorllewin Caerfyrddin 1889 - 1910 |
Olynydd: John Hinds |