Mae John Owen-Jones (ganed 5 Mai 1971) yn actor a pherfformiwr sioeau cerdd, ac yn Gymro a fu'n llwyddiannus iawn yn West End Llundain. Chwaraeodd ran 'The Phantom' yn The Phantom of the Opera gan Andrew Lloyd Webber gan ymddangos bron i fil a hanner o weithiau. Bu'n chwarae rhan Jean Valjean yn sioe gerdd Alain Boublil a Claude-Michel Schönberg, Les Misérables hefyd, yng nghynhyrchiad y West End ac yn Broadway. Yn fwy diweddar chwaraeodd rôl Valjean ar daith penblwydd Les Misérables yn 25 oed ac fel y Phantom ar daith 25 mlynedd "The Phantom in The Phantom Of The Opera" o'r Deyrnas Unedig.

John Owen-Jones
Ganwyd5 Mai 1971 Edit this on Wikidata
Porth Tywyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ganolog Llefaru a Drama Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr Edit this on Wikidata
Math o laistenor Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd John Owen-Jones ym Mhorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin yn 1971. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Glan-y-mor cyn mynd i hyfforddi yn y Central School of Speech and Drama yn Llundain. Graddiodd yn 1994 gyda Baglor yn y Celfyddydau (Anrhydeddus) mewn Actio.

Dolenni Allanol

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.