Les Misérables (sioe gerdd)

Sioe gerdd a gyfansoddwyd ym 1980 gan y cyfansoddwr Ffrengig Claude-Michel Schönberg ydy Les Misérables (ynganer /leɪ ˌmɪzəˈrɑːb/; ynganiad Ffrengig: [le mizeˈʁaːblə]), a chaiff ei hadnabod ar lafar fel Les Mis neu Les Miz, gyda'r libretto gan Alain Boublil. Caiff y sioe ei chanu o'r dechrau i'r diwedd ac efallai mai'r sioe hon yw'r enwocaf o bob sioe gerdd Ffrengig. Mae Les Miserables yn un o'r sioeau cerdd a berfformir fwyaf ledled y byd. Ar yr 8fed o Hydref, 2006, dathlodd y sioe ei phenblwydd yn 21ain, a daeth Les Miserables y sioe gerdd a berfformiwyd am y cyfnod hiraf o amser yn hanes y West End. Mae'r sioe yn parhau i gael ei pherfformio er fod ei lleoliad wedi newid.

Les Misérables
200
Poster y sioe wreiddiol
Cerddoriaeth Claude-Michel Schönberg
Geiriau Herbert Kretzmer
Alain Boublil
Llyfr Victor Hugo
Seiliedig ar Yn seiliedig ar nofel 1862 Victor Hugo Les Misérables
Cynhyrchiad 1980 Cynhyrchiad Ffrengig gwreiddiol
1985 West End Llundain
1986 Canolfan Lincoln
1987 Broadway
1987 Tel Aviv
1988 Taith UDA
1989 Cynhyrchiad Awstriaidd
1989 Toronto
1989 Cynhyrchiad Pwylaidd
1991 Cynhyrchiad ym Mharis
1991 Fersiwn yr Iseldiroedd
1992 Madrid
1992 Prague
1999 Ail fersiwn Hebraeg
2001 Tallinn
2006 Adfywiad Broadway
2007 Belgrade, Serbia
2008 Adfywiad o'r fersiwn Iseldireg gyda chynhyrchiadau'n fyd eang
Gwobrau Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau
Gwobr Tony am y Llyfr Gorau
Gwobr Tony am y Sgôr Wreiddiol Gorau

Ymysg caneuon enwocaf y sioe gerdd hon, sydd wedu ennill Gwobr Tony, mae "Castle On A Cloud", "I Dreamed a Dream", "One Day More", "A Heart Full of Love", "Stars", "Bring Him Home", "Do You Hear the People Sing?", "Empty Chairs and Empty Tables", "Master of the House", "Little People", "A Little Fall of Rain", a "On My Own".

Seiliwyd y sioe gerdd ar nofel Victor Hugo o 1862 Les Misérables. Fe'i lleolir yn Ffrainc yn ystod y 19g a dilyna hynt a helynt cast o gymeriadau wrth iddynt frwydro am faddeuant a chwyldro. Mae'r cymeriadau cynnwys troseddwr sydd ar barôl o'r enw Jean Valjean, sydd yn torri amodau ei barôl a chuddio ei hunaniaeth, am nad yw wedi medru dod o hyd i waith trwy fod yn onest; daw dod o hyd i Valjean yn obsesiwn i inspector yr heddlu, Javert; gorfodir Fantine, mam sengl, i fod yn butain er mwyn medru cynnal ei merch Cosette; ar ôl marwolaeth ei mam, daw Cosette yn ferch fabwysiedig i Jean Valjean ac yn y pen draw, syrthia mewn cariad gyda myfyriwr chwyldroadol o'r enw Marius Pontmercy; mae'r Thénardiers, y tafarnwyr diegwyddor, yn gofalu am Cosette i ddechrau ac wrth eu boddau yn twyllo a dwyn; Éponine, eu merch ifanc sydd mewn cariad dros ei phen a'i chlustiau gyda Marius; Gavroche, bachgen ifanc sy'n begera a mab ieuanc y Thénardiers; arweinwyr y myfyrwyr Enjolras sy'n cynllwynio chwyldro i ryddhau'r dosbarth gweithiol gorthrymedig Ffrainc. Ymuna gymysgedd o buteiniaid, myfyrwyr chwyldroadol, gweithwyr ffatri ac eraill â'r cast.

Cefndir

golygu

Agorodd y sioe gerdd Ffrengig wreiddiol yn y Palais des Sports ym Mharis ym Medi 1980 a bu'n lwyddiant ysgubol yn syth gyda'r cynulleidfaoedd Ffrengig. Fodd bynnag, bu'n rhaid gorffen y sioe wedi i'r cytundeb hurio ddod i ben. Ni oedd modd iddynt barhau i berfformio er mwyn ateb y galw am y sioe.

Ym 1982, tua chwe mis wedi i Cats agor yn Llundain, rhoddwyd recordiad o'r sioe Ffrengig wreiddiol i'r cyfarwyddwr Cameron Mackintosh gan y cyfarwyddwr Peter Ferago. Roedd Ferago wedi ei blesio'n fawr gan yr albwm a gofynnodd i Mackintosh a fyddai diddordeb ganddo mewn cynhyrchu fersiwn Saesneg o'r sioe. I ddechrau, roedd gan Mackintosh ei amheuon ond yn y pen draw, penderfynodd ei gyfarwyddo. Dewiswyd y newyddiadurwr a'r bardd James Fenton i ysgrifennu'r geiriau Saesneg i ddechrau, ond newidiwyd hyn i Herbert Kretzmer, a ehangodd a datblygodd ar y geiriau Ffrengig gwreiddiol. Nid oedd ei waith yn "gyfieithad" uniongyrchol o'r Ffrangeg. Daeth traean o'r geiriau Saesneg o rhyw gyfieithad bras, traean arall yn addasiad o'r geiriau Ffrangeg a'r traean olaf yn ddeunydd newydd sbon, megis y Prolog. Ysgrifennwyd cerddoriaeth ychwanegol i gyd-fynd â'r deunydd newydd.

Llogwyd Trevor Nunn a John Caird i gyfarwyddo a chyd-gynhyrchu'r sioe, a dewiswyd y Royal Shakespeare Company i gyflwyno'r sioe, gyda rhai o'i haelodau megis Roger Allam ac Alun Armstrong, yn aelodau o'r cast. Agorodd y sioe am y tro cyntaf yn Llundain ar yr 8efd o Hydref 1985 yng Nghanolfan Celfyddydol y Barbican, cyn symud i'r Palace Theatre ac yna i'r Queen's Theatre, lle mae'n parhau i gael ei pherfformio. Roedd yr adolygiadau gan y beirniaid yn negyddol iawn, gyda rhai ysgolheigion yn ei gondemnio am droi darn i lenyddiaeth clasurol Ffrengig i mewn i sioe gerdd, tra bod eraill yn credu fod y sioe yn rhy drymaidd. Fodd bynnag, mwynhaodd y gynulleidfa'r sioe ac yn fuan iawn roedd y swyddfa docynnau yn gwerthu allan ar gyfer y perfformiadau. Bellach mae'r adolygiadau yn llawer mwy cadarnhaol.