John Penry
awdur Piwritanaidd
(Ailgyfeiriad o John Penri)
Merthyr Protestannaidd o Langamarch, Brycheiniog (Powys), oedd John Penry (1559 - 29 Mai 1593).
John Penry | |
---|---|
Ganwyd | 1563 Cefn Brith |
Bu farw | 29 Mai 1593 Afon Tafwys |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, pregethwr |
Bywgraffiad
golyguRoedd ei gartref yng Nghefn-brith, Powys. Cafodd ei addysg yn Peterhouse, Caergrawnt, lle y daeth dan ddylanwad Piwritaniaeth.
Roedd yn feirniadol iawn o'r eglwys oherwydd ei diffyg gofal bugeiliol. Ysgrifennodd nifer o lyfrau yn Saesneg yn beirniadu'r Eglwys yng Nghymru ac yn gofyn am fwy o bregethu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bu yn cynnal gwasg argraffu yn Lloegr am gyfnod, gwasg a argraffodd nifer o bamffledi yn beirniadu'r esgobion. Fe'i camgyhuddwyd o fod yn awdur y Marprelate Tracts ac o fod yn anheyrngar i frenin Lloegr. Cafodd ei grogi ar lan Afon Tafwys, 29 Mai 1593.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- The Æquity of an Humble Supplication (1587)
Cofiant
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Robert Tudur Jones. "Penry, John (1563-1593), awdur Piwritanaidd". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 7 Mehefin 2024.