Mudiad diwygiadol Cristnogol o Brotestaniaid yn y 16eg ganrif a'r 17eg ganrif oedd Piwritaniaeth, a geisiodd buro Eglwys Loegr o olion yr Eglwys Babyddol. Roedd Piwritaniaid yn credu nad oedd Eglwys Loegr wedi ei diwygio'n llawn ac y dylai ddod yn fwy Protestannaidd. Bu cyfraniad Piwritaniaeth at hanes Lloegr yn sylweddol, yn enwedig yn ystod cyfnod y Brotectoriaeth (1653–1659) ar ôl Rhyfel Cartref Lloegr.[1]

Roedd Piwritaniaid yn anhapus â dylanwad cyfyngedig y Diwygiad Seisnig a chyda goddefiad Eglwys Loegr o rai arferion oedd yn gysylltiedig â'r Eglwys Babyddol. Eu bwriad oedd puro Eglwys Loegr o ran addoli ac athrawiaeth, yn ogystal â duwioldeb personol a chorfforaethol. Mabwysiadodd Piwritaniaid ddiwinyddiaeth Ddiwygiedig ac, yn yr ystyr hwnnw, roeddent yn Galfiniaid (yn yr un modd â llawer o'u gwrthwynebwyr cynharach). Roedd rhai Piwritaniaid o blaid gwahanu oddi wrth yr holl enwadau Cristnogol eraill er mwyn sefydlu eglwysi annibynnol. Daeth y grwpiau gwahanol hyn a fodolai oddi mewn i'r Piwritaniaid, fel yr Ymwahanwyr, i'r amlwg yn y 1640au, pan oedd Cynulliad San Steffan yn methu ffurfio eglwys genedlaethol newydd yn Lloegr.

Erbyn diwedd y 1630au, roedd y Piwritaniaid mewn cynghrair â'r byd masnachol oedd yn ehangu o ran dylanwad yn y gymdeithas, yn gwrthwynebu cysyniad ‘hawl dwyfol’ y frenhiniaeth, ac roedd ganddynt gefnogwyr pwerus ym Mhresbyteriaid yr Alban. O ganlyniad, daethant yn rym gwleidyddol mawr yn Lloegr, a chryfhawyd y grym hwnnw o ganlyniad i Ryfel Cartref Cyntaf Lloegr (1642–1646). Gadawodd bron pob clerigwr Piwritanaidd Eglwys Loegr ar ôl adferiad y frenhiniaeth ym 1660 a Deddf Unffurfiaeth 1662. Parhaodd llawer i arfer eu ffydd mewn enwadau anghydffurfiol, yn enwedig mewn eglwysi Annibynnol a Phresbyteraidd. Bu newid radicalaidd yn natur y mudiad yn Lloegr, er iddo gadw ei gymeriad am gyfnod llawer hirach yn Lloegr Newydd, America.[2]

Ni chafodd Piwritaniaeth erioed ei ddiffinio'n ffurfiol o fewn Protestaniaeth, ac yn anaml y defnyddiwyd y term ‘Piwritan’ ei hun ar ôl troad y 18fed ganrif. Ymgorfforwyd rhai delfrydau Piwritanaidd - gan gynnwys gwrthod Pabyddiaeth yn ffurfiol - yn athrawiaethau Eglwys Loegr; cafodd eraill eu hamsugno mewn enwadau Protestannaidd eraill a ddaeth i'r amlwg ar ddiwedd yr 17eg a dechrau'r 18fed ganrif yng Ngogledd America a Phrydain. Mae'r eglwysi Cynulleidfaol, yr ystyrir yn gyffredinol eu bod yn rhan o'r traddodiad Diwygiedig, yn ddisgynyddion i'r Piwritaniaid. Yn ogystal â hynny, mae credoau Piwritanaidd wedi eu hymgorffori yn Natganiad Savoy, cyfaddefiad ffydd Eglwysi'r Annibynwyr.[3]

Piwritaniaid enwogGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Spraggon, Julie (2003). Puritan Iconoclasm During the English Civil War (yn Saesneg). Boydell Press. ISBN 978-0-85115-895-2.
  2. Cliffe, J. T. (John Trevor), 1931-. The Puritan gentry besieged, 1650-1700. [Place of publication not identified]. ISBN 978-1-134-91815-7. OCLC 919306589.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
  3. Bremer, Francis J.; Webster, Tom (2006). Puritans and Puritanism in Europe and America: A Comprehensive Encyclopedia (yn Saesneg). ABC-CLIO. ISBN 978-1-57607-678-1.