John Prichard (awdur)
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a hanesydd Methodistiaeth Môn
Gweinidog ac awdur o Gymru oedd John Prichard (1821 – 18 Hydref 1889).
John Prichard | |
---|---|
Ganwyd | 1821 Amlwch |
Bu farw | 18 Hydref 1889 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor |
Cefndir
golyguFe'i ganwyd yn Amlwch. Gweithiodd ar Fynydd Parys am gyfnod. Pe bynnag yn 1844 dechreuodd bregethu, ac yn 1845 aeth i Goleg y Bala. Treuliodd chwe mlynedd yn cenhadu a chadw ysgol ym Mancot, Sir y Fflint. Yn 1853 dychwelodd i Amlwch, ble cadwai ei wraig siop hyd 1863. Cafodd ei ordeinio yn 1857,[1] ac yn 1864 penderfynodd bugeilio eglwys Porth Amlwch. Ymddeolodd yn 1884. Caiff ei ddisgrifio fel 'pregethwr poblogaidd anghyffredin' trwy Gymru gyfan.
Ffynonellau
golygu- Y Gwyddoniadur Cymreig (1889–96) (ail arg.), viii, 468o-468p
- R. Hughes, Robert Owen (Jena, 1905)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "PRICHARD, JOHN (1821 - 1889), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a hanesydd Methodistiaeth Môn | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-16.