Amlwch

tref a chymuned yn Ynys Môn

Tref fach a chymuned yn Ynys Môn yw Amlwch.[1][2] Saif yng ngogledd yr ynys ar lôn yr A5025 tua 15 milltir i'r gogledd o Borthaethwy, hanner ffordd rhwng Cemaes a Moelfre. Mae Caerdydd 229.2 km i ffwrdd o Amlwch ac mae Llundain yn 356.8 km. Y ddinas agosaf ydy Bangor sy'n 25.5 km i ffwrdd.

Amlwch
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCymuned Amlwch Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaMechell Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.410154°N 4.345662°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH4492 Edit this on Wikidata
Cod postLL68 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Mae enw 'Amlwch' yn cyfeirio at safle harbwr y dref, sef Porth Amlwch, yn deillio o'r Gymraeg am 'o gwmpas' a llwch (hen air sy'b golygu inlet, creek yn debyg i'r gair Gaeleg 'loch' ar gyfer corff o ddŵr.

Tref sy'n gorwedd ar lan y môr yw hi, heb draeth ond gyda chlogwynni arfordirol trawiadol. Mae twristiaeth yn elfen bwysig yn yr economi leol. Ar un adeg roedd yn borthladd eithaf prysur gyda llongau yn hwylio oddi yno i Ynys Manaw a Lerpwl. Mae nifer o'r tai yn dyddio o'r 19g ac yn ychwanegu at awyrgylch y dref.Yn Amlwch mynydd Paris caethweision oedd yn mwyngliaidd yn yr copper sygun copper mines.

Yr Arwydd yw papur bro Benllech a gweddill cylch Mynydd Bodafon.

Porth Amlwch

Hanes golygu

Tyfodd Amlwch yn gyflym yn y 18g oherwydd y cloddio copr ar Fynydd Parys, y mwyaf o'i fath yn y byd ar un adeg. Erbyn diwedd y ganrif honno roedd gan Amlwch boblogaeth o tua 10,000 gan ei gwneud yr ail dref yng Nghymru ar ôl Merthyr Tudful. Dyna pryd yr estynnwyd yr harbwr gwreiddiol i wneud lle i longau mwy ar gyfer y fasnach cludo mwyn copr.

Dirywiodd y diwydiant copr lleol ar ganol y 1850au ond parhaodd Amlwch i fod yn ganolfan bwysig i'r diwydiant adeiladu ac atgyweirio llongau a gwaith arall cysylltiedig â'r môr.

Yn 1953 agorwyd gwaith cemegol i dynnu bromin o ddŵr môr ond cafodd ei gau yn 2004. Mae cau atomfa Wylfa, gerllaw, yn debyg o gael effaith andwyol ar yr economi lleol hefyd.

Mae siamber gladdu yn Amlwch o'r enw Barcloddiad y Gawres.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Amlwch (pob oed) (3,789)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Amlwch) (2,234)
  
61.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Amlwch) (2462)
  
65%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Amlwch) (765)
  
45.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Amlwch golygu

Adeiladau a chofadeiladau golygu

Porth Amlwch golygu

Atyniadau yn y cylch golygu

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 11 Rhagfyr 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolenni allanol golygu