John Stoddart
Newyddiadurwr a chyfreithiwr o Loegr oedd Syr John Stoddart (6 Chwefror 1773 – 16 Chwefror 1856), a wasanaethodd fel golygydd The Times.[1]
John Stoddart | |
---|---|
Ganwyd | 6 Chwefror 1773 Caersallog |
Bu farw | 16 Chwefror 1856 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, newyddiadurwr |
Tad | John Stoddart |
Priod | Isabella Wellwood-Moncreiff |
Plant | Mary Ann Stoddart, Isabella Maxwell Stoddart, Henry Moncrieff Stoddart, John Frederick Stoddart, William Wellwood Stoddart |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Fe annwyd Stoddart yng Nghaersallog, ac ef oedd mab hynaf John Stoddart, a oedd yn raglaw yn y Llynges Frenhinol. Priododd Sarah (ei unig chwaer) â William Hazlitt ar 1 Mai 1808. Addysgwyd Stoddart yn Ysgol Ramadeg Salisbury, ac wedi hynny yn Christ Church, Rhydychen, lle yr ymaelododd ar 25 Hydref 1790, a graddiodd yn B.A yn 1794, B.C.L yn 1798, a D.C.L yn 1801. Derbyniwyd ef yn aelod o Goleg yr Eiriolwyr yn 1801, ac o 1803 hyd 1807 bu yn Eiriolwr y Goron a'r Morlys yn Malta. Yn ystod ei amser ym Malta ymwelodd Samuel Taylor Coleridge â Stoddart.
Newyddiaduraeth
golyguWedi hynny dychwelodd Stoddart i Loegr i ymarfer yn y Doctors Commons. Cychwynnodd gysylltiad â'r Times, yn 1810 a gwasanaethodd fel arweinydd-awdur o 1812 ymlaen. Daeth Stoddart i gytundeb â John Walter yn Ebrill 1890 efo perchennog y Times, i ddod yn olygydd y papur newydd. Ysgogodd ei gydymdeimlad pybyr gyda'r Torïaid gerydd, ond gwrthododd Stoddart gais Walter iddo gymedroli ei dôn, ac o ganlyniad awdurdododd Walter Thomas Barnes, gohebydd ar y pryd, i olygu erthyglau blaenllaw Stoddart. Fodd bynnag, cynyddodd anwadalwch gwleidyddol Stoddart nes iddo gael ei ddiswyddo gan Walter yn ystod gaeaf 1816. Daeth Barnes yn olynydd iddo.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Error". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-02-01. Cyrchwyd 2024-02-26.
- ↑ The History of The Times, vol. 1: The Thunderer in the Making, 1785-1841 (Llundain: Printing House Square, 1935), t. 157-161