Agor y brif ddewislen

Llenor o Sais oedd William Hazlitt (10 Ebrill 177818 Medi 1830) a ystyrir yn un o'r ysgrifwyr gwychaf yn holl lenyddiaeth yr iaith Saesneg.[1]

William Hazlitt
John Hazlitt Portrait of William Hazlitt.jpg
Ganwyd 10 Ebrill 1778 Edit this on Wikidata
Maidstone Edit this on Wikidata
Bu farw 18 Medi 1830 Edit this on Wikidata (52 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswyl Hazlitt House Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Lloegr Lloegr
Galwedigaeth hanesydd llenyddiaeth, athronydd, Ysgrifennwr, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, arlunydd Edit this on Wikidata
Adnabyddus am Characters of Shakespear's Plays, Table-Talk, The Spirit of the Age Edit this on Wikidata
Plant William Hazlitt Edit this on Wikidata

Ganwyd ar 10 Ebrill 1778 ym Maidstone, Caint, yn fab i bregethwr o Undodwr, a threuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Iwerddon ac yn yr Unol Daleithiau. Dychwelodd ei deulu i Loegr pan oedd William yn naw oed ac ymsefydlasant yn Wem, Swydd Amwythig. Cychwynnodd ar ei ugeiniau yn paentio yn hytrach nag ysgrifennu, a theithiodd i Baris yn 1802 i weithio yn y Louvre. Bu'n rhaid iddo ddychwelyd i Loegr yn 1803 ar ddechrau Rhyfeloedd Napoleon. Trodd ei sylw at athroniaeth, ac yn 1805 cyhoeddodd ei lyfr cyntaf, An Essay on the Principles of Human Action, ar bwnc metaffiseg.

Priododd Sarah Stoddart yn 1808 a symudant i Winterslow ar Wastadedd Caersallog. Cyhoeddodd Hazlitt rhagor o waith, a bu'n gyfeillgar â llenorion amlwg gan gynnwys Charles Lamb, William Wordsworth, a Samuel Taylor Coleridge, ond erbyn 1812 nid oedd ganddo'r un geiniog i'w henw. Traddodai cyfres o ddarlithoedd ar bwnc athroniaeth ganddo yn Llundain, a gweithiodd fel gohebydd i'r Morning Chronicle. Yn fuan enillodd enw i'w hunan am ei feirniadaeth, ei newyddiaduraeth, a'i draethodau. Ysgrifennodd hefyd ar gyfer cyfnodolion eraill megis yr Examiner ac efe oedd prif gyfrannwr y casgliad o draethodau The Round Table (2 gyfrol, 1817). Cyhoeddoedd ei waith ar Shakespeare Characters of Shakespear's Plays yn 1817 a chasgliad o'i feirniadaeth theatr dan y teitl A View of the English Stage yn 1818. Denodd edmygedd gan ragor o lenorion o fri, yn eu plith Percy Bysshe Shelley a John Keats, a bu hefyd yn cweryla a'r sawl oedd yn ei feirniadu. Cyhoeddodd ragor o'i ddarlithoedd, gan gynnwys On the English Poets (1818) ac On the English Comic Writers (1819), a chasgliadau o feirniadaeth ac ysgrifau gwleidyddol. O 1819, neilltuodd ei yrfa at ysgrifennu traethodau ar gyfer cyfnodolion, megis y London Magazine.

Gwahanodd o'i wraig yn 1819 a chawsant ysgariad yn 1822. Ysgrifennodd lled-hunangofiant, y gwaith unigryw Liber Amoris; or, The New Pygmalion (1823), ar sail ei brofiadau o ymserchu ym merch ei landlord yn Llundain. Cesglid nifer o'i ysgrifau gorau yn y ddwy gyfrol Table Talk (1821) a The Plain Speaker (1826). Priododd Hazlitt weddw o'r enw Bridgwater yn 1824, a chawsant ysgariad yn 1827. Teithiodd y pâr i'r cyfandir ac ysgrifennodd Hazlitt atgof, Notes of a Journey in France and Italy (1826). Bu farw ar 18 Medi 1830 yn Soho, Llundain, yn 52 oed.

Cyhoeddwyd rhagor o'i draethodau gan olygyddiaeth ei fab, William: Sketches and Essays (1829), Literary Remains (1836), a Winterslow (1850).

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) William Hazlitt. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2019.