John Thaw

actor a aned yn 1942

Actor o Sais oedd John Edward Thaw, CBE (3 Ionawr 194221 Chwefror 2002).[1]

John Thaw
GanwydJohn Edward Thaw Edit this on Wikidata
3 Ionawr 1942 Edit this on Wikidata
Longsight Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 2002 Edit this on Wikidata
Luckington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodSheila Hancock, Sally Alexander Edit this on Wikidata
PlantAbigail Thaw Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan Edit this on Wikidata

Ganwyd ym Manceinion, a chafodd ei dderbyn i Academi Frenhinol Celfyddyd Dramatig yn oed 17.[2] Ar deledu, ymddangosodd yn y cyfresi drama Redcap (1964–66), The Sweeney (1975–78), Inspector Morse (1987–2000), a Kavanagh QC (1995–2001), ac yn y comedi sefyllfa Home to Roost (1985–90). Yn ystod ei yrfa theatr, cafodd dro byr gyda'r Royal Shakespeare Company ym 1983 gan chwarae rhannau Syr Toby Belch a'r Cardinal Wolsey,[3] a chwaraeodd Henry Higgins yn Pygmalion ym 1984 a Joe Keller yn All My Sons ym 1985.[1] Ar y sgrin fawr, chwaraeodd y gwleidydd De Affricanaidd Jimmy Kruger yn y ffilm Cry Freedom (1987) a chwaraeodd Fred Karno, impresario y theatr gerdd, yn Chaplin (1992).

Roedd yn briod ddwywaith: i'r hanesydd Sally Alexander, ac i'r actores Sheila Hancock. Cafodd ddwy ferch, Abigail gan ei wraig gyntaf a Joanne gan ei ail wraig, a hefyd ei lysferch Melanie Jane trwy ei briodas i Sheila Hancock.[2] Bu farw John Thaw yn 60 oed o ganser yr oesoffagws.[4]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Purser, Philip (22 Chwefror 2002). Obituary: John Thaw. The Guardian. Adalwyd ar 26 Awst 2013.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Honan, William H. (23 Chwefror 2002). John Thaw Is Dead at 60; Played TV's Inspector Morse. The New York Times. Adalwyd ar 26 Awst 2013.
  3. (Saesneg) Obituary: John Thaw. The Daily Telegraph (23 Chwefror 2002). Adalwyd ar 26 Awst 2013.
  4. (Saesneg) Actor John Thaw dies. BBC (22 Chwefror 2002). Adalwyd ar 26 Awst 2013.

Dolen allanol

golygu