John Tibbot
Clociwr a oriadurwr o Gymro
Clociwr ac oriadurwr o Gymro oedd John Tibbot (tua 1757 – Mawrth 1820).[1]
John Tibbot | |
---|---|
Ganwyd | 1757 |
Bu farw | Mawrth 1820 Llanbryn-mair |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | Clociwr, oriadurwr |
Tad | Richard Tibbott |
Mae'n debyg ei fod yn fab i Richard Tibbot, Ty-croes, Pennarth, Llanfair Caereinion. Tua 1777 ymsefydlodd John yn y Drenewydd fel gwneuthurwr clociau ac oriorau.[1] Ar un adeg roedd Ezekiel Hughes, arweinydd yr ymfudwyr cyntaf o Lanbryn-mair i'r Unol Daleithiau, yn brentis i John Tibbot.[2] Ym 1810 lluniodd Tibbot gloc a honodd nad oedd colli mwy na dwy eiliad dros ddwy flynedd.[3]
Ym 1807, wedi tair degawd wrth ei grefft yn y Drenewydd, symudodd John i fferm Y Cawg yn Llanbryn-mair. Fe'i claddwyd ym mynwent y pentref ar 24 Mawrth 1820.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 John Tibbot (c. 1757 – 1820). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 24 Medi 2013.
- ↑ (Saesneg) Ezekiel Hughes (1766 - 1849). The Wales-Ohio Project. Adalwyd ar 24 Medi 2013.
- ↑ I. C. Peate, "John Tibbot, Clock and Watch Maker", Montgomeryshire Collections, xlviii, pt. 2 (Y Trallwng, 1944), t. 178. Dyfynnwyd gan E. P. Thompson, "Time, work-discipline, and industrial capitalism", Past and Present.
Llyfryddiaeth
golygu- "Tibbot, John, of Newtown". Clocks 17: t. 7. Ionawr 1995.
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) Enghraifft o gloc mawr gan John Tibbot Archifwyd 2016-03-07 yn y Peiriant Wayback