Llanfair Caereinion

Pentref gwledig a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llanfair Caereinion.[1] Saif ar groesfan bwysig ar lôn yr A458, 18 km (11 milltir) i'r gogledd o'r Drenewydd. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Banwy a rhed afon Banwy trwy'r pentref. Mae ganddo boblogaeth o 1,810 (2011).[2]

Llanfair Caereinion
Mathtref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,810 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • c. 1885 (tua) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6,253.82 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.6488°N 3.3243°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000299 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ105065 Edit this on Wikidata
Cod postSY21 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRussell George (Ceidwadwyr)
AS/auCraig Williams (Ceidwadwr)
Map

Yn yr Oesoedd Canol Llanfair Caereinion oedd canolfan bwysicaf cantref Caereinion. Yn ôl y traddodiad, sefydlwyd Caereinion gan Einion Yrth, un o feibion Cunedda, ganol y 5g. Ceir hen fryngaer o'r enw Caereinion tua milltir o'r pentref. Roedd eglwys y pentref dan awdurdod Meifod a safai ym Mathrafal, prif lys brenhinoedd Teyrnas Powys, tua tair milltir a hanner i'r gogledd.

Yn fersiwn John Jones o Gellilyfdy o'r chwedl Hanes Taliesin, mae Gwion Bach, ymgnawdoliad cyntaf Taliesin Ben Beirdd, yn "fab gwreang o Lan Uair yn Kaer Einion ym Powys".[3]

Y pentref oddeutu 1885

Ym 1837 cafwyd terfysg fawr yn y plwyf pan ymosododd tlodion yr ardal ar Swyddog y Tlodion plwyf Llanfair Caereinion oherwydd cyfyngiadau Deddf Newydd y Tlodion a bu rhaid galw'r milisia lleol i mewn i adfer trefn.[4]

Plu'r Gweunydd yw papur bro Llanfair Caereinion a'r cylch.

Lleolir terminws gorllewinol Rheilffordd y Trallwng a Llanfair Caereinion yn y pentref, sy'n denu twristiaid o ganlyniad.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[5] ac yn Senedd y DU gan Craig Williams (Ceidwadwr).[6]

Tywydd golygu

  • Tân yn Llanfair Caereinion 21 Awst 1758:

Digwyddodd hwn ar ddydd Llun Awst 21, 1758. Ymddangosodd adroddiad ar y digwyddiad yn y London Chronicle ar Fedi 9-12 1758 ac mae W.T.R. Pryce yn sôn am y digwyddiad yn ei lyfr Samuel Roberts, Clock Maker [1]. Mae'r gwynt mawr yn cael ei grybwyll Yn gywir efallai.[7] ond roedd yn gyfnod o sychder hefyd. Dyma beth ddywedodd un o gyfoeswyr Samuel Roberts ar y pryd, sef William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn 1758:

“as a result of dry conditions in early summer, [the hay] was "very thin and short" and the hay making weather was not particularly favourable.[8]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanfair Caereinion (pob oed) (1,810)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanfair Caereinion) (632)
  
36%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanfair Caereinion) (819)
  
45.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanfair Caereinion) (210)
  
28.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwybodaeth Fanwl am y Cyfrifiad". Cyngor Sir Powys. Cyrchwyd 15/11/2017. Check date values in: |access-date= (help)
  3. Patrick K. Ford (gol.), Ystorya Taliesin (Caerdydd, 1992).
  4. R. T. Jenkins, Hanes Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg (Caerdydd, 1933), t. 130.
  5. Gwefan Senedd Cymru
  6. Gwefan Senedd y DU
  7. John Arwel, cys. pers: codnodwyd ym Mwletin Llên Natur rhifyn 57
  8. Dyddiadur William Bulkeley, Llanfechell, Môn
  9. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  11. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.