John Trevor (llefarydd)

barnwr o Gymru a anwyd 1637

Gwleidydd, barnwr a chyfreithiwr o Gymru oedd Syr John Trevor (c. 1637 – 20 Mai 1717) a ddyrchafwyd yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn 1685 hyd at 1687 ac eilwaith rhwng 1689 hyd at 1695. Gwasanaethodd hefyd fel Meistr y Rholiau rhwng 1685 a 1689 ac eilwaith rhwng 1693 a 1717. Daeth ei ail gyfnod fel llefarydd i ben pan ddiswyddwyd ef am dderbyn cil-dwrn o 1,000 gini ar 16 Mawrth 1695. Ef oedd y Llefarydd diwethaf i gael ei ddiswyddo tan 2009 pan ddiswyddwyd y barwn Michael Martin. Yn ôl Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, "bu farw yn Llundain gan adael ar ei ôl enw da oblegid ei wybodaeth o'r gyfraith a'i ddi-dueddrwydd fel barnwr".

John Trevor
Ganwyd1637 Edit this on Wikidata
Y Waun Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mai 1717 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbarnwr, cyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Iwerddon, Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, Member of the 1661-79 Parliament, Member of the 1679 Parliament, Member of the 1680-81 Parliament, Member of the 1685-87 Parliament, Member of the 1681 Parliament, Member of the 1689-90 Parliament, Member of the 1690-95 Parliament, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Llefarydd Tŷ'r Cyffredin Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolTori Edit this on Wikidata
TadJohn Trevor Edit this on Wikidata
MamMargaret Jeffreys Edit this on Wikidata
PriodJane Mostyn Edit this on Wikidata
PlantEdward Trevor, Arthur Trevor, John Trevor, Anne Trevor, Tudor Trevor Edit this on Wikidata
Gwobr/aumarchog Edit this on Wikidata
Bryncynallt (Brynkinalt) heddiw.

Teulu ac addysg

golygu

Roedd ei dad, a oedd â'r un enw, yn fab i Edward Trevor (c. 1580–1642) a'i fam oedd Margaret (née Jeffreys); John oedd yr ail fab. Roeddent yn byw yn hen gartref y teulu, sef Bryncynallt (Brynkinalt), ym mhlwyf y Waun, Sir Ddinbych.[1]

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Rhuthun ac wedi gadael aeth i weithio at ei ewyrth, Arthur Trevor.[2] Gyda chymorth George Jeffreys, dringodd yn ei yrfa nes y cafodd ei benodi'n Gwnsel i Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban.[2]

Swyddi

golygu

Dyrchafwyd ef yn Llefarydd Tŷ'r Cyffredin yn 1685 hyd at 1687 pan orseddwyd William III o Loegr. Ond gwnaed ef yn Llefarydd am yr ail dro rhwng 1689 a 1695. Gwasanaethodd hefyd fel Meistr y Rholiau rhwng 1685 a 1689 ac eto rhwng 1693 a 1717. Ar 6 Gorffennaf 1688 daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor a dewiswyd ef hefyd yn gyd-gwnstabl Castell y Fflint yn 1687 ac yn custos rotulorum Sir y Fflint yn Rhagfyr 1688.[3]

Oherwydd fod ganddo lygaid croes, roedd ambell Aelod Seneddol ar goll, gan na wyddent ar bwy yr edrychai, na chyda pwy y siaradai, ambell dro. Cymerwyd mantais o hyn gan rai i siarad heb wahoddiad.[4]

Sgandal

golygu

Ar 7 Mawrth 1695 cafwyd ef yn euog o dderbyn cil-dwrn o 1,000 gini (£1,050; gwerth £1.6 yn 2009[5]) gan Gyngor Dinas Llundain ar yr amod ei fod yn gwthio deddf drwy'r Tŷ Cyffredin.[2] Daeth y llwgrwobrwyo i'r amlwg a diarddelwyd ef o'r Tŷ ar 16 Mawrth; plediodd iddo fod yn wael ei iechyd. Ni ofynwyd iddo ad-dalu'r cil-dwrn, fodd bynnag a chadwodd ei swydd fel cyfreithiwr nes iddo farw yn 79, neu efallai 80 oed![2][2][6] Derbyniodd y cil-dwrn ychydig wythnosau cyn iddo gael ei ddewis yn arglwydd-ganghellor, felly tynnwyd y cynnig yn ôl (Luttrell,[7].

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Lundy, Darryl (1 Mai 2008). "Person Page – 3657". thepeerage.com. Cyrchwyd 19 Mai 2009.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Jeaffreson, John Cordy (1867). A Book about Lawyers. G.W. Carleton. tt. 106–109.
  3. Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 16 Mawrth 2018.
  4. King, Anthony (19 Mai 2009). "MPs' expenses: even as a scapegoat, Michael Martin is a failure". Daily Telegraph. Cyrchwyd 19 Mai 2009. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  5. http://www.measuringworth.com/
  6. "17th Century Speaker's downfall". BBC News. BBC. 19 Mai 2009. Cyrchwyd 19 Mai 2009.
  7. Brief Relation, ii, 326, 350)