Dinas Llundain
Dinas fechan o fewn Llundain yw Dinas Llundain (Saesneg: City of London). Fe'i lleolir ar lan ogleddol Afon Tafwys; mae'n ffinio â Westminster i'r gorllewin, Camden i'r gogledd-orllewin, Islington a Hackney i'r gogledd, a Tower Hamlets i'r dwyrain; saif gyferbyn â Southwark ar lan ddeheuol yr afon.
![]() | |
![]() | |
Arwyddair |
Domine dirige nos ![]() |
---|---|
Math |
dinas, financial centre, ardal fusnes, siroedd seremonïol Lloegr, district of the United Kingdom, ardal gyda statws dinas ![]() |
| |
Ardal weinyddol | ardal Llundain |
Poblogaeth |
8,706 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Charles Bowman ![]() |
Gefeilldref/i |
Shanghai ![]() |
Nawddsant |
Yr Apostol Paul ![]() |
Daearyddiaeth | |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
2.904 km² ![]() |
Uwch y môr |
20 metr ![]() |
Gerllaw |
Afon Tafwys, Afon Fleet ![]() |
Yn ffinio gyda |
Llundain Fwyaf ![]() |
Cyfesurynnau |
51.5156°N 0.0931°W ![]() |
Cod SYG |
E09000001 ![]() |
GB-LND ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol |
Corfforaeth Dinas Llundain ![]() |
Corff deddfwriaethol |
Court of Common Council ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth |
Arglwydd Faer Llundain ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Charles Bowman ![]() |
![]() | |

Dyma graidd hanesyddol Llundain, sydd wedi cadw ei ffiniau traddodiadol ers yr Oesoedd Canol. Cyfeirir ati fel Y Ddinas, Dinas neu'r Filltir Sgwâr, am fod ganddi arwynebedd o 2.6 km², sef bron milltir sgwâr. Mae'r enwau yma yn gyfystyr â chanolfan cyllidol y Deyrnas Gyfunol.
Yn yr Oesoedd Canol bu'r enw Llundain yn cyfeirio at y Ddinas yn unig, a oedd ar wahân i Westminster. Cysylltwyd y ddau gan Stryd y Fflyd (fel y'i gelwid o fewn y Ddinas) a droes yn Y Strand tu allan i furiau'r Ddinas.
Y Ddinas yw sir seremonïol lleiaf Lloegr a'r ddinas lleiaf ym Mhrydain Fawr ar ôl Tyddewi. Sylwer nad yw'r Ddinas yn un o 32 bwrdref Llundain.