Ieuan Trefor II

esgob Llanelwy a fu farw 1410

Roedd Ieuan Trefor II, a adnabyddir hefyd fel John Trefor, Siôn Trefor a John Trevaur (bu farw 1410) yn Esgob Llanelwy rhwng 1394 a 1408 ac awdur Cymraeg Canol a Lladin.

Ieuan Trefor II
Ganwyd14 g Edit this on Wikidata
Bu farwEbrill 1410, 5 Hydref 1412 Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob esgobaethol Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ei enw gwreiddiol oedd Ieuan ac fel yna roedd ei gyd-Gymry yn ei alw, ond yn ddiweddarach cymerodd y ffurf Seisnig John a mabwysiadu'r cyfenw Trefor. Mae'r ffaith iddo ddewis y cyfenw hwnnw yn awgrymu mai Trefor, ger Llangollen, oedd ei fan geni.

Roedd ei frawd Adda yn briod â chwaer Owain Glyndŵr, ac apwyntiodd Owain ef yn lysgennad at frenin Ffrainc.

Yn 1408 penodwyd ef yn esgob Cill Rìmhinn (Saesneg: St Andrews) yn Yr Alban. Ni allodd gymeryd meddiant o'r esgobaeth, gan fod dau Bab yn gwrthwynebu ei gilydd yn y cyfnod yma, un yn Rhufain a'r llall yn Avignon. Apwyntiwyd Ieuan Trefor i esgobaeth Llanelwy gan y Pab yn Rhufain, ond Pab Avignon roedd yr Alban yn ei gydnabod. Bu farw yn Rhufain ar 10 Ebrill 1410.

Credir gan rai ysgolheigion mai Ieuan Trefor yw awdur un o weithiau safonol y cyfnod yn disgrifio arfau,[1] sef y Tractatus de Armis ('Traethawd ynglŷn ag Arfau'). Mae'n bosibl mai ef ei hun a'i gyfieithodd i'r Gymraeg dan y teitl Llyfr Arveu. Llyfr arall a briodolir iddo yw Buchedd Sant Martin; ceir testun a gopïwyd gan y bardd ac achyddwr Gutun Owain yn 1488 neu 1489. Ar ei ddiwedd ceir y nodyn:

John Trevor a droes y vvuchedd honn o'r Llading yn Gymraec...

Ond erys cryn ansicrwydd am awduraeth y gweithiau hyn, a dydi pob ysgolhaig ddim yn derbyn eu bod yn waith yr Esgob John Trefor.

Roedd esgobdy Ieaun yn agored i'r beirdd. Ymhlith y rhai a ganodd iddo oedd Iolo Goch; cedwir cywydd ganddo sy'n moli Ieuan ac sy'n cyfeirio at ei daith i'r Alban.[2]

Llyfryddiaeth

golygu
  • Evan John Jones (gol.), Buchedd Sant Martin (Caerdydd, 1945)

Cyfeiriadau

golygu
  1. John Taylor (1987). English Historical Literature in the Fourteenth Century. Clarendon Press. t. 181. ISBN 978-0-19-820065-9.
  2. D. R. Johnston (gol.). Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd XVII.