Cyfrifiaduregydd, dyfeisiwr ac entrepreneur o Americanwr oedd John Warnock (6 Hydref 194019 Awst 2023).[1] Roedd Warnock yn arloeswr pwysig ym maes technoleg meddalwedd cyfrifiadurol ac roedd ganddo ugain o batentau. Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd (ynghyd â Charles Geschke) Adobe Systems, cwmni graffeg a meddalwedd cyhoeddi.

John Warnock
Ganwyd6 Hydref 1940 Edit this on Wikidata
Salt Lake City Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 2023 Edit this on Wikidata
o canser y pancreas Edit this on Wikidata
Los Altos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Utah
  • Olympus High School Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • David C. Evans
  • Ivan Sutherland Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwyddonydd cyfrifiadurol, peiriannydd, entrepreneur, person busnes, mathemategydd Edit this on Wikidata
Swyddprif weithredwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Adobe
  • Evans & Sutherland
  • PARC Edit this on Wikidata
Adnabyddus amPortable Document Format Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Cenedlaethol Technoleg ac Arloesedd, Gwobr Marconi, Cymrawd Amgueddfa Hanes y Cyfrifiadur, Lovelace Medal, Edwin H. Land Medal, ACM Software System Award, ACM Fellow, Medal Bodley Edit this on Wikidata

Astudiodd Warnock ym Mhrifysgol Utah, lle enillodd radd baglor mewn mathemateg ac athroniaeth, gradd meistr, a doethuriaeth (1969) mewn peirianneg drydanol.

Cyn sefydlu Adobe, gweithiodd Warnock a Charles Geschke yn Xerox PARC o 1978. Gan i'r ddau fethu ag argyhoeddi Xerox o Interpress fel iaith disgrifio tudalen, gadawasant Xerox a sefydlu Adobe Systems yn 1982. Yn eu cwmni newydd, fe wnaethant ddatblygu'r iaith ddisgrifio tudalen PostScript.

Ar ddiwedd 1986, roedd Warnock wedi dyfeisio Adobe Illustrator, rhaglen luniadu cyfrifiadurol a ddefnyddiodd linellau a chromliniau Bézier i greu delweddau. Fe'i datblygodd i ddechrau i awtomeiddio llawer o'r tasgau llaw a ddefnyddiwyd gan ei wraig, Marva, dylunydd graffeg. Fe'i rhyddhawyd yn gynnar yn 1987.

Yn 1991 datblygodd Warnock Portable Document Format (PDF) sydd bellach wedi dod yn hollbresennol fel fformat ffeil.

Cafodd ffurfdeip Adobe Warnock, a ddyluniwyd gan Robert Slimbach, ei enwi ar ei ôl.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rosenwald, Michael S. (22 Awst 2023). "John Warnock, Adobe CEO who led desktop publishing revolution, dies at 82". Washington Post (yn Saesneg). Cyrchwyd 24 Awst 2023.