John Wynne Griffith

Gwleidydd a botanegydd oedd John Wynne Griffith (1 Ebrill 176320 Mehefin 1834) a oedd yn aelod seneddol dros etholaeth Bwrdeistrefi Dinbych o 1818 i 1826. Bu hefyd yn gadeirydd ar Fainc Sir Ddinbych ac yn gofiadur Dinbych.[1]

John Wynne Griffith
Ganwyd1 Ebrill 1763 Edit this on Wikidata
Bu farw20 Mehefin 1834 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, botanegydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Un o'i brif ddiddordebau oedd botaneg a bu'n gyfrifol am ddarganfod rhai o blanhigion prinnaf Cymru, gan gynnwys Cotoneaster y Gogarth (Cotoneaster cambricus) a'r Tormaen Siobynnog (Saxifraga cespitosa).[2]

CyfeiriadauGolygu

  1.  Escott, Margaret. GRIFFITH, John Wynne (1763-1834), of Garn, Denb.. History of Parliament Online. Adalwyd ar 22 Awst 2018.
  2. Wynne, Goronwy (2017). Blodau Cymru: Byd y Planhigion. Talybont, Ceredigion: Y Lolfa. ISBN 978-1-78461-424-9