Mathemategydd o Hwngari, a ddaeth yn ddiweddarach yn ddinesydd o'r Unol Daleithiau, oedd John von Neumann, Hwngareg: Neumann János Lajos, (28 Rhagfyr, 19038 Chwefror, 1957). Gwnaeth gyfraniad mawr mewn cryn nifer o feusydd, yn cynnwys damcaniaeth set, peirianneg cwantwm a chyfrifiadureg. Bu ganddo ran bwysig yn natblygiad y bom hidrogen.

John von Neumann
GanwydNeumann János Lajos Edit this on Wikidata
28 Rhagfyr 1903 Edit this on Wikidata
Budapest Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 1957 Edit this on Wikidata
o canser ar yr ymennydd Edit this on Wikidata
Walter Reed Army Medical Center, Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethHwngari, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Lipót Fejér Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, gwyddonydd cyfrifiadurol, ffisegydd, economegydd, academydd Edit this on Wikidata
Swyddcadeirydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Armed Forces Special Weapons Project
  • Labordy Genedlaethol Los Alamos
  • Labordy Ymchwil Balistics
  • Naval Ordnance Laboratory
  • Prifysgol Frederick William
  • Prifysgol Hamburg
  • Sefydliad Astudiaeth Uwch
  • United States Atomic Energy Commission
  • Prifysgol Princeton Edit this on Wikidata
Adnabyddus amvon Neumann cellular automaton, Von Neumann neighborhood, von Neumann universal constructor, von Neumann architecture, von Neumann algebra, von Neumann–Morgenstern utility theorem, von Neumann regular ring, Von Neumann–Bernays–Gödel set theory, von Neumann universe, von Neumann conjecture, von Neumann entropy, Von Neumann stability analysis, abelian von Neumann algebra, von Neumann ordinal, Von Neumann equation, von Neumann bicommutant theorem, Weyl–von Neumann theorem, minimax theorem, First draft of a report on the EDVAC Edit this on Wikidata
TadMax von Neumann Edit this on Wikidata
MamMargaret Neumann Edit this on Wikidata
PriodKlara Dan von Neumann, Mariette Kövesi Edit this on Wikidata
PlantMarina von Neumann Whitman Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Rhyddid yr Arlywydd, Medal Carl-Gustaf Rossby am Ymchwil, Bôcher Memorial Prize, Gwobr Enrico Fermi, Darlithoedd Josiah Willard Gibbs, Silliman Memorial Lectures, Medal for Merit, Gwobr Albert Einstein, Person y Flwyddyn y Financial Times, Fellow of the Institute of Mathematical Statistics, Cymrawd y Gymdeithas Econometrig Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Budapest, yr hynaf o dri mab, i deulu Iddewig cefnog. Fe'i addysgwyd gan diwtor preifat, tan y mynychodd ysgol uwchradd Lwtheraidd yn Budapest. Yn ddeunaw oed, cofrestrodd i astudio gradd mewn mathemateg ym Mhrifysgol Budapest. Aeth wedyn i gychwyn doethuriaeth ym Mhrifysgol Budapest, ond cychwynodd astudio peirianneg cemegol yn Zurich ar yr un pryd. Derbyniodd radd mewn peirianneg cemegol o Zurich yn 1925 a doethuriaeth o Budapest yn 1926.

Daeth yn Gydfyfyriwr Rockerfeller ym Mhrifysgol Göttingen, ac erbyn 1926 roedd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Humboldt ym Merlin, yr ieuengaf yn ei hanes. Wedi marwolaeth ei dad yn 1929, ymfudodd y teulu i'r Unol Daleithiau. Daeth yn un o bedwar Athro cyntaf yr Institute for Advanced Study (roedd y lleill yn cynnwys Albert Einstein a Kurt Gödel), a bu'n Athro mathemateg yno hyd ei farwolaeth.