Johnny Owen
paffiwr
Paffiwr proffesiynol pwysau bantam o Gymru oedd John Richard Owen (7 Ionawr 1956 – 4 Tachwedd 1980) a ymladdai dan yr enw Johnny Owen. Roedd o gorff eiddil yr olwg, gyda "choesau matsis", ond daliodd deitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Prydain Fawr a'r teitl Ewropeaidd.
Johnny Owen | |
---|---|
Delw o Johnny Owen, Merthyr Tudful. | |
Ganwyd | 7 Ionawr 1956 Merthyr Tudful |
Bu farw | 4 Tachwedd 1980 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | paffiwr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig, Cymru |
Wrth ymladd am deitl Pwysau Bantam y byd yn erbyn Lupe Pintor ar 19 Medi 1980 cafodd ei fwrw i'r llawr yn annymwybodol, ac ni fu'n ymwybodol ar ôl hynny; bu farw saith wythnos yn ddiweddarach. Daeth 10,000 o bobl i'w angladd ym Merthyr Tudful.
Dadorchuddiwyd cerflun ohono ym Merthyr Tudful yn 2002.