Johnny Owen

paffiwr
(Ailgyfeiriad o Johnny Owen (paffiwr))

Paffiwr proffesiynol pwysau bantam o Gymru oedd John Richard Owen (7 Ionawr 19564 Tachwedd 1980) a ymladdai dan yr enw Johnny Owen. Roedd o gorff eiddil yr olwg, gyda "choesau matsis", ond daliodd deitl Pencampwriaeth Pwysau Bantam Prydain Fawr a'r teitl Ewropeaidd.

Johnny Owen
Delw o Johnny Owen, Merthyr Tudful.
Ganwyd7 Ionawr 1956 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
Bu farw4 Tachwedd 1980 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeony Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata

Wrth ymladd am deitl Pwysau Bantam y byd yn erbyn Lupe Pintor ar 19 Medi 1980 cafodd ei fwrw i'r llawr yn annymwybodol, ac ni fu'n ymwybodol ar ôl hynny; bu farw saith wythnos yn ddiweddarach. Daeth 10,000 o bobl i'w angladd ym Merthyr Tudful.

Dadorchuddiwyd cerflun ohono ym Merthyr Tudful yn 2002.